Cynghorydd Cofrestr Tai – contract cyfnod penodol o 10 mis
End Date: 14th July 2024
Ymgynghorydd Cofrestr Dai – Contract am Gyfnod Penodol o 10 mis
Dyddiad Terfyn: 14 Gorffennaf 2024
Mae gennym gyfle newydd sbon yn Cartrefi Conwy ar gyfer Ymgynghorydd Cofrestr Dai, a fydd yn gweithio o fewn ein timau Cymdogaethau.
Fel Ymgynghorydd Cofrestr Dai chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob un o’n cwsmeriaid sydd angen cyngor a chymorth tai. Mae ein Hymgynghorwyr Cofrestr Dai yn derbyn ceisiadau am dai i benderfynu ar gymhwysedd, gan gysylltu ag adrannau ac asiantaethau eraill i benderfynu ar gymhwysedd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’n Partneriaid ac felly bydd gofyn gweithio ar sail gylchdro o Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mae Colwyn.
Beth fydd yn ofynnol gennych chi?
- Profiad o weithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid neu mewn swydd gwasanaeth i gwsmeriaid
- Agwedd empathig
- Sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol
- Sgiliau trefniadaeth a’r gallu i ail-flaenoriaethu yn ôl yr angen
- Sgiliau gwneud penderfyniadau’n hyderus
- Gallu gweithio ar y cyd o fewn Cartrefi Conwy a gyda’n holl bartneriaid ac asiantaethau eraill
- Defnyddio eich cerbyd eich hun at ddibenion gwaith (gan gynnwys yswiriant busnes)
Beth fyddwch yn ei gael gennym am hynny:
- Cyflog cystadleuol, yn dechrau ar £24,042 gros y flwyddyn
- Amryw o fuddion a gwasanaethau cwmni gan gynnwys atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol, cynllun Beicio i’r Gwaith, Tâl Salwch Uwch, Gwell Polisïau a Gweithdrefnau Cyfeillgar i Deuluoedd, Cynllun arian yn ôl am ofal iechyd, Grantiau datblygiad personol a mwy!
- 25 diwrnod o wyliau yn ogystal ag 8 Gŵyl Banc
- Cynllun Oriau Hyblyg
- Dewis o 2 bensiwn
Cynigir y rôl hon ar sail Cyfnod Penodol am gyfnod o 10 mis, oherwydd cyllid.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r rhinweddau a’r profiad yr ydym yn chwilio amdanyn nhw ar gyfer ein Ymgynghorydd Cofrestr Dai newydd, cliciwch ar y ddolen i wneud cais heddiw!
Disgrifiad Swydd a manyleb person