Cydlynydd Llais Tenantiaid
End Date: 29th June 2026
Cydlynydd Llais Tenantiaid
Morfa Gele (gyda rhywfaint o weithio o adref) – gweithio’n hyblyg rhwng y gymuned, y cartref a’r swyddfa
37 awr yr wythnos (llawn amser)
Parhaol
Gradd 6: £32,639 – £34,677 (yn dibynnu ar brofiad)
Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lais tenantiaid
Yn Cartrefi Conwy, rydym yn credu y dylai tenantiaid helpu i lunio’r gwasanaethau maent yn eu derbyn. Rydym yn chwilio am Gydlynydd Llais Tenantiaid i’n helpu i wrando, dysgu a gweithredu ar yr hyn sy’n bwysig i’n cymunedau.
Mae’r rôl hon yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu clywed — a bod eu barn yn arwain at newid priodol.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
- Trefnu a chefnogi grwpiau tenantiaid, digwyddiadau a chyfarfodydd
- Helpu cydweithwyr i gynnwys tenantiaid mewn penderfyniadau
- Casglu adborth drwy arolygon a gweithgareddau ymgysylltu
- Sicrhau ein bod yn “cau’r cylch” ac yn dweud wrth denantiaid beth sydd wedi newid
- Cadw cofnodion clir a thystiolaeth o gyfranogiad tenantiaid
- Adeiladu perthnasoedd cryf gyda thenantiaid, partneriaid a chydweithwyr
- Arwain datblygiad a chyflwyniad ein Strategaeth Llais Tenantiaid a’r cynllun gweithredu, gan sicrhau ei bod yn cefnogi blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol ac yn bodloni safonau rheoleiddio Llywodraeth Cymru
- Cefnogi ein nod o wrando’n weithredol, defnyddio adborth i wella gwasanaethau, a chryfhau llais tenantiaid mewn gwneud penderfyniadau
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
- Profiad o weithio gyda phobl mewn rôl gymunedol neu sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid
- Sgiliau cyfathrebu cryf
- Y gallu i drefnu a rheoli eich gwaith eich hun
- Hyder wrth weithio gyda thimau gwahanol
- Brwdfrydedd gwirioneddol dros wrando a gwneud y peth cywir
Ein hymrwymiadau – sut byddwch yn gweithio
✅ Gwneud y peth cywir – Sicrhau bod adborth tenantiaid yn cael ei glywed ac y gweithredir arno mewn ffordd deg ac agored.
✅ Arwain drwy esiampl – Cymryd perchnogaeth a bod yn rhagweithiol wrth gasglu adborth a gwella gwasanaethau.
✅ Bod yn gryfach gyda’n gilydd – Gweithio’n agos gyda thenantiaid a chydweithwyr i ddod o hyd i atebion gwell gyda’n gilydd.
Pam ymuno â ni?
- Gwaith hyblyg a chefnogol
- Rôl lle gallwch weld effaith gwirioneddol
- Cyfle i siapio sut rydym yn gwrando ar denantiaid
Gwnewch gais rwan Yma
Os ydych chi eisiau ein helpu i roi tenantiaid wrth galon popeth a wnawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Rydym ni’n gyflogwr sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch chi yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni.