Ymgynghorydd Pobl

Ymgynghorydd Pobl

Ymgynghorydd Pobl

End Date: 18th October 2026

A ydych yn mwynhau hyfforddi rheolwyr, ymdrin â materion cysylltiadau gweithwyr cymhleth, a helpu i greu profiadau cadarnhaol i gydweithwyr? Ein pobl yw ein cryfder pennaf, ac rydym yn chwilio am rywun sy’n rhannu’r gred honno.

Lleol: Morfa Gele, Abergele
Oriau: 37 awr yr wythnos, tmyor penodol hyd at 2 flwyddyn.
Cyflog: Hyd at £41,430

Mae gennym gyfle cyfnod penodol o ddwy flynedd i Ymgynghorydd Pobl ymuno â’n Tîm Pobl sefydledig a chwarae rhan allweddol yn darparu gwasanaeth proffesiynol sy’n canolbwyntio ar bobl ar gyfer oddeutu 265 o gydweithwyr ar draws y Grŵp Cartrefi Conwy.

Y Rôl

Yn atebol i’r Partner Profiad Pobl Arweiniol, byddwch yn gweithio fel rhan o Dîm Pobl ymroddedig, gan reoli eich llwyth achosion eich hun a chyfrannu at brosiectau a mentrau pobl ehangach.

Byddwch yn datblygu perthnasoedd ymddiriedus â rheolwyr ar draws y Grŵp, eu helpu i ymdrin â heriau’n hyderus ac yn effeithiol gan sicrhau canlyniadau teg, cyson a chyfreithlon ar gyfer cydweithwyr. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor dibynadwy ynglŷn â materion cysylltiadau gweithwyr gan gynnwys absenoldeb, disgyblaeth, cwynion, perfformiad a newid sefydliadol.

Ynghyd â darparu cefnogaeth yn ymwneud â chysylltiadau gweithwyr, byddwch yn cyfrannu at brosiectau pobl, datblygu polisïau, mentrau lles gweithwyr, a gweithgareddau gwelliant parhaus, gan helpu i greu profiadau cadarnhaol i’ch cydweithwyr mewn amgylchedd lle gall pawb ffynnu.

Amdanoch Chi

Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl sy’n cyfuno arbenigedd AD technegol â dull pragmatig sy’n canolbwyntio ar bobl.

Byddwch yn rhywun sydd:

  • Naill ai â chymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) neu brofiad cyfwerth
  • Â phrofiad amlwg o reoli materion cysylltiadau gweithwyr cymhleth
  • Wedi gweithio mewn sefydliad rheoledig neu sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth
  • Yn meithrin hygrededd ac ymddiriedaeth yn gyflym gyda rheolwyr a gweithwyr ar bob lefel
  • Yn cydbwyso empathi gyda beirniadaeth gadarn a meddylfryd sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau yn seiliedig ar gyfraith gyflogaeth ac arfer orau
  • Yn mwynhau cydweithio ac yn credu’n gryf mewn dull “un tîm”

Yr hyn yr ydym ni’n ei gynnig:

Byddwch yn rhan o sefydliad cefnogol ac uchelgeisiol sy’n cydnabod pwysigrwydd pobl, yn gwerthfawrogi eich syniadau ac yn rhoi cyfle i chi ddylanwadu, gwella a siapio’r ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau pobl.

  • Contract Cyfnod Penodol Dwy Flynedd
  • Cyflog o hyd at £41,430, yn ddibynnol ar brofiad
  • Wythnos waith gyfartalog o 37 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • Diwylliant gweithio’n hyblyg, gydag amseroedd dechrau/gorffen addas i chi, rhwng 8am a 6pm fel arfer
  • Swyddfa fodern yn Abergele, gyda’r opsiwn o weithio o gartref un diwrnod yr wythnos
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc (sy’n cynyddu gyda hyd gwasanaeth i hyd at 31 diwrnod + gwyliau banc)
  • Polisïau cyfeillgar i deuluoedd gyda darpariaethau absenoldeb arbennig uwch
  • Tâl salwch uwch ac atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol
  • Dewis o ddau gynllun pensiwn hael
  • Ffioedd aelodaeth broffesiynol a chefnogaeth datblygu wedi’u talu gan y cwmni
  • Cynlluniau gofal iechyd sy’n rhoi arian yn ôl i chi

Diddordeb?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn ymrwymo i greu gweithle cynhwysol a chefnogol.  Rydym yn hapus i wneud addasiadau rhesymol drwy gydol y broses recriwtio ac yn y gweithle. Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth â’ch cais, cysylltwch â ni.

​People Advisor JDPScy

Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu dod â’u hunain yn gyfan i’r gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, profiad a chymuned, ac rydym yn credu bod safbwyntiau amrywiol yn cryfhau ein sefydliad a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio’n deg, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiduedd i bawb. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a meddu ar y Wobr QED.
Er bod gweithio gyda’n gilydd fel Un Tîm yn ein gwneud ni’n gryfach, rydym yn dathlu unigoliaeth ac yn cydnabod bod ein gwahaniaethau yn un o’n cryfderau mwyaf.
Os ydych chi angen unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni yn defnyddio eich dull cyfathrebu dewisol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad hygyrch a chadarnhaol i bob ymgeisydd.
Cyfleoedd Cyfartal
Rydym yn dymuno cyflawni’r nodau a’r ymrwymiadau a nodir yn ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a datblygu darlun cywir o gyfansoddiad y gweithlu wrth annog cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae angen eich cymorth a’ch cydweithrediad arnom i wneud hyn; fodd bynnag, mae llenwi’r ffurflen hon yn wirfoddol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac fe’i defnyddir at ddibenion monitro yn unig: Equal Opportunities Monitoring Form

Other Careers Available