Arweinydd Rhaglen Pontio’r Bwlch
End Date: 13th April 2026
Rheolwr Prosiect – Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid
Cyflog: Hyd at 36,200 y flwyddyn
Contract: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos am gyfnod penodol o hyd at 2 flynedd*
Lleoliad: Morfa Gele, ond bydd deiliad y swydd yn gorfod teithio i leoliadau amrywiol o fewn ardal weithredol y grŵp
Rydym ni’n siapio mwy na thai – rydym ni’n creu lleoedd lle mae pobl a chymunedau yn gallu ffynnu. Bydd ein ar gyfer Rheolwr Prosiect Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid yn chwarae rhan hanfodol i sbarduno’r weledigaeth hon, gan sicrhau bod yr holl waith datblygu, o’r dylunio cychwynnol i’r trosglwyddo ac wedi hynny, yn darparu gwerth cymdeithasol hirdymor, yn dathlu hunaniaeth leol ac yn rhoi llais y tenant wrth wraidd popeth.
Dyma gyfle cyffrous i rywun sy’n frwdfrydig dros wneud y peth iawn: cefnogi dylunio cynaliadwy a chynhwysol; ystyried iechyd a lles a gwneud yn siŵr bod bob punt a fuddsoddir yn darparu buddion cymunedol ehangach.
Byddwch yn dod â phartneriaid, tenantiaid a chydweithwyr at ei gilydd – gan gydweithio’n gryfach i gryfhau’r cysylltiad rhwng penderfyniadau dylunio a chanlyniadau hirdymor, mynd ar safleoedd yn gynt a manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac ymgysylltu lleol.
Fel cefnogwr ein fframwaith Pontio’r Bwlch, byddwch yn arwain drwy esiampl: byddwch yn gosod safonau uchel, sbarduno dysgu parhaus ac yn sicrhau bod ein datblygiadau yn cyfrannu at uchelgeisiau sero net Cymru gan greu llefydd unigryw, cysylltiedig a gwydn ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Os ydych chi’n barod i helpu i siapio dyfodol ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth go iawn, llenwch y ffurflen gais.
I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs am y swydd cysylltwch â hr@cartreficonwy.org
Dyddiad Cau: 13 Ebrill 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 20 Ebrill 2026
Rheolwr Prosiect – Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid