Cydlynydd Llais y Tenant (swydd ran-amser).
End Date: 25th July 2022
Mae gan Cartrefi Conwy swydd newydd wych i rywun fel Cydlynydd Llais y Tenant (swydd ran-amser). Bydd y swydd hon yn hollbwysig o ran sicrhau ein bod yn diwallu Safon Reoleiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymgysyllu â Thenantiaid
Yn y rôl hon byddwch yn:
-
Datblygu a darparu gweithgareddau Llais y Tenant, gan ddilyn cynlluniau gweithredu mewn cydweithrediad â chydweithwyr eraill ar draws y busnes, i gynnwys ein tenantiaid mewn gwelliannau i’r gwasanaeth a phrosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel o’r sefydliad.
-
Sefydlu, datblygu a chynnal perthnasoedd da gyda phanelau ffurfiol, gweithgorau ac eraill drwy weithgareddau Llais y Tenant i gynnig cyfleoedd gwerthfawr i’n tenantiaid
-
Casglu a choladu tystiolaeth o ganlyniadau gweithgareddau Llais y Tenant a dangos sut y maent yn cysylltu â’r Safonau Rheoleiddiol.
-
Cynnal ymgynghoriadau a dadansoddi data arolygon a data arall i gasglu ac asesu barn a syniadau ein tenantiaid
a llawer mwy ………
Os ydych yn angerddol am ddarparu gwasanaeth a gwerth rhagorol i’n tenantiaid ac os oes gennych ymagwedd drefnus a dadansoddol tuag at waith yna mae’n bosib mai hon yw’r swydd berffaith i chi.
Yr hyn y byddwn yn ei gynnig i chi:
- Cyflog – Gradd 6 V-W £27,752 to £28,645 PRO RATA
- Diwrnod gwaith 3 diwrnod (22.5 awr yr wythnos)
- Ein holl fuddiannau gwych arferol
- Mae hon yn rôl barhaol
- Bydd gwiriad manylach y DBS yn angenrheidiol
Dyddiad cau: 25/07/2022
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person