Arweinydd Rhaglen Pontio’r Bwlch

Arweinydd Rhaglen Pontio’r Bwlch

Arweinydd Rhaglen Pontio’r Bwlch

End Date: 13th April 2026

Rheolwr Prosiect – Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid

Cyflog: Hyd at 36,200 y flwyddyn

Contract: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos am gyfnod penodol o hyd at 2 flynedd*

Lleoliad: Morfa Gele, ond bydd deiliad y swydd yn gorfod teithio i leoliadau amrywiol o fewn ardal weithredol y grŵp

Rydym ni’n siapio mwy na thai – rydym ni’n creu lleoedd lle mae pobl a chymunedau yn gallu ffynnu. Bydd ein ar gyfer Rheolwr Prosiect ​Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid yn chwarae rhan hanfodol i sbarduno’r weledigaeth hon, gan sicrhau bod yr holl waith datblygu, o’r dylunio cychwynnol i’r trosglwyddo ac wedi hynny, yn darparu gwerth cymdeithasol hirdymor, yn dathlu hunaniaeth leol ac yn rhoi llais y tenant wrth wraidd popeth.

Dyma gyfle cyffrous i rywun sy’n frwdfrydig dros wneud y peth iawn: cefnogi dylunio cynaliadwy a chynhwysol; ystyried iechyd a lles a gwneud yn siŵr bod bob punt a fuddsoddir yn darparu buddion cymunedol ehangach.

Byddwch yn dod â phartneriaid, tenantiaid a chydweithwyr at ei gilydd – gan gydweithio’n gryfach i gryfhau’r cysylltiad rhwng penderfyniadau dylunio a chanlyniadau hirdymor, mynd ar safleoedd yn gynt a manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant ac ymgysylltu lleol.

Fel cefnogwr ein fframwaith Pontio’r Bwlch, byddwch yn arwain drwy esiampl: byddwch yn gosod safonau uchel, sbarduno dysgu parhaus ac yn sicrhau bod ein datblygiadau yn cyfrannu at uchelgeisiau sero net Cymru gan greu llefydd unigryw, cysylltiedig a gwydn ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Os ydych chi’n barod i helpu i siapio dyfodol ein cymunedau a gwneud gwahaniaeth go iawn, llenwch y ffurflen gais.

I gael mwy o wybodaeth neu sgwrs am y swydd cysylltwch â hr@cartreficonwy.org

Dyddiad Cau: 13 Ebrill 2026

Dyddiad y Cyfweliad: 20 Ebrill 2026

Gweler y Disgrifiad Swydd a Manylion yr Unigolyn isod:

Rheolwr Prosiect – Datblygu, Ymgysylltu â Chwsmeriaid ac â Rhanddeiliaid

 

Other Careers Available