Cynghorydd Cymorth Ariannol (Contract Cyfnod Penodol 12 Mis)
End Date: 7th September 2026
Lleoliad: Morfa Gele, Abergele
Cyflog: Gradd 6 U i W £32,639 i £34,677 yn dibynnu ar brofiad
Contract: Contract Cyfnod Penodol 12 Mis, Llawn amser 37 awr
Helpu pobl i wneud y gorau o’u harian a’u cefnogi ar yr adeg bwysicaf
Yn Cartrefi Conwy, credwn fod pawb yn haeddu cartref diogel a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ffynnu. Rydym yn chwilio am Gynghorydd Cymorth Ariannol gofalgar a gwybodus i ymuno â’n Tîm Rheoli Incwm ar gontract cyfnod penodol 12 mis.
Mae hon yn swydd werth chweil lle byddwch yn helpu tenantiaid i gael mynediad at y budd-daliadau a’r cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddynt, gwella eu llesiant ariannol, a dod o hyd i atebion ymarferol yn ystod cyfnodau heriol. Mae pob dydd yn dod â chyfle i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
Byddwch yn darparu cyngor a chymorth budd-daliadau lles arbenigol i denantiaid, gan eu helpu i wneud y mwyaf o’u hincwm a chanfod eu ffordd drwy system fudd-daliadau sy’n aml yn gymhleth. Byddwch yn gweithio gyda phobl o bob cefndir, gan gynnwys teuluoedd, pobl hŷn, pobl ifanc a thenantiaid bregus.
Bydd eich swydd yn cynnwys:
- Cefnogi tenantiaid gyda hawliadau budd-daliadau a chyngor lles.
- Helpu pobl i ddeall Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill.
- Cwblhau asesiadau ariannol a darparu canllawiau rheoli arian.
- Gweithio’n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid allanol i sicrhau’r canlyniadau gorau i denantiaid.
- Cadw’n gyfredol â datblygiadau mewn deddfwriaeth diwygiadau lles a budd-daliadau.
- Cefnogi apeliadau a chynrychioli tenantiaid lle bo hynny’n briodol.
- Monitro canlyniadau a defnyddio data i helpu i wella gwasanaethau.
- Adeiladu perthnasoedd cryf gyda sefydliadau sy’n cefnogi cynhwysiant ariannol a llesiant.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol am helpu pobl ac sydd â phrofiad o ddarparu cyngor budd-daliadau lles.
Byddwch yn dod â’r canlynol i’r swydd:
- Profiad o gynghori ar fudd-daliadau lles a chefnogi pobl trwy hawliadau.
- Gwybodaeth gref o ddeddfwriaeth budd-daliadau a meini prawf hawliau.
- Profiad o wneud y mwyaf o incwm i gleientiaid.
- Sgiliau cyfathrebu a meithrin perthynas rhagorol.
- Y gallu i reoli llwyth achosion amrywiol a blaenoriaethu’n effeithiol.
- Sgiliau dadansoddol da a’r gallu i roi sylw i fanylion.
- Ymagwedd gydymdeimladol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Byw Ymrwymiadau Cartrefi
Yn Cartrefi Conwy, mae ein hymrwymiadau yn llunio popeth a wnawn.
Gwneud y peth iawn
Byddwch bob amser yn rhoi tenantiaid yn gyntaf, gan ddarparu cyngor gonest, proffesiynol a chefnogi pobl i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Arwain trwy esiampl
Byddwch yn cymryd perchnogaeth, yn chwilio am atebion, yn rhannu eich gwybodaeth gyda chydweithwyr ac yn helpu i wella gwasanaethau i’n tenantiaid.
Yn gryfach gyda’n gilydd
Byddwch yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr, partneriaid a chymunedau, gan adeiladu perthnasoedd sy’n ein helpu i gyflawni canlyniadau gwell i’r bobl rydym yn eu cefnogi.
Pam ymuno â Cartrefi Conwy?
Pan fyddwch chi’n ymuno â ni, rydych chi’n ymuno â sefydliad sy’n gofalu am bobl. Byddwch yn rhan o dîm cefnogol sy’n gweithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth bob dydd.
Mae hwn yn gyfle i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i wella bywydau, cefnogi cymunedau a helpu tenantiaid i gyflawni mwy o sicrwydd ariannol.
Os ydych chi’n angerddol am helpu pobl ac eisiau cael effaith ystyrlon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Disgrifiad swydd llawn yma
Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu dod â’u hunain yn gyfan i’r gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, profiad a chymuned, ac rydym yn credu bod safbwyntiau amrywiol yn cryfhau ein sefydliad a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio’n deg, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiduedd i bawb. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a meddu ar y Wobr QED.
Er bod gweithio gyda’n gilydd fel Un Tîm yn ein gwneud ni’n gryfach, rydym yn dathlu unigoliaeth ac yn cydnabod bod ein gwahaniaethau yn un o’n cryfderau mwyaf.
Os ydych chi angen unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni yn defnyddio eich dull cyfathrebu dewisol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad hygyrch a chadarnhaol i bob ymgeisydd.
Cyfleoedd Cyfartal
Rydym yn dymuno cyflawni’r nodau a’r ymrwymiadau a nodir yn ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a datblygu darlun cywir o gyfansoddiad y gweithlu wrth annog cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae angen eich cymorth a’ch cydweithrediad arnom i wneud hyn; fodd bynnag, mae llenwi’r ffurflen hon yn wirfoddol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac fe’i defnyddir at ddibenion monitro yn unig: Equal Opportunities Monitoring Form