Mae talu eich rhent ar-lein yn hawdd trwy ein porth tenantiaid My Cartrefi.
I fynd i My Cartrefi cliciwch www.mycartrefi.org
Drwy ddefnyddio MyCartrefi gallwch:
- Wneud Taliad
- Rhoi gwybod am waith atgyweirio
- Cysylltu â ni
- Gweld eich taflen ddatgan
- Diweddaru eich manylion cyswllt
- Gwirio eich Balans
SUT I GOFRESTRU
CAM 1
Ewch i www.mycartrefi.org a nodwch eich cyfeirnod tenantiaeth, eich dyddiad geni a’ch cyfenw.
Er mwyn cofrestru bydd angen i chi roi rhif cyfeirnod eich tenantiaeth. Gellir dod o hyd i’r rhif hwn ar unrhyw lythyr mae Cartrefi Conwy yn ei anfon atoch.
CAM 2
Nodwch eich cyfeiriad e-bost ac yna crëwch enw defnyddiwr a chyfrinair y byddwch yn eu defnyddio er mwyn mewngofnodi yn y dyfodol.
CAM 3
Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen er mwyn rhoi’ch cyfrif ar waith.
Galwch wylio tiwtorial pob cam ar sut i gofrestru yn y fideo isod:
MY CARTREFI : Register from Cartrefi Conwy on Vimeo.
Fel diolch am ddefnyddio MyCartrefi, bob mis y byddwch yn defnyddio ein gwasanaeth ar-lein, byddwn yn rhoi eich enw mewn raffl fawr lle bydd cyfle i chi ennill £200. Cliciwch fan hyn am fwy o wybodaeth ar hwn ac ein Gwobrau Cartref eraill.
Last modified on Mehefin 24th, 2019 at 2:49 pm