Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmer

End Date: 28th February 2018

A ydych chi yn frwdfrydig am wasanaeth cwsmer ac i  ddarparu profiad gwych?

Mae gennym angen person brwdfrydig sydd eisiau helpu ein cwsmeriaid bob dydd gydag ystod eang o ymholiadau. Allai cwsmeriaid adrodd am atgyweiriadau, gwneud cais am dai, talu eu rhent, anhawsterau a llawer mwy. Beth bynnag y ddaw, chi fydd y man cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth ac arweiniad, yn bennaf ar y ffôn ond hefyd wyneb yn wyneb ac yn ysgrifenedig trwy ein sianeli digidol.

Rydym yn chwilio am bobl cyfeillgar a cadarnhaol sy’n gofalu am brofiad ein cwsmeriaid. Os ydych chi’n rhywun sy’n cymryd perchenogaeth, yn falch o helpu eraill ac medru gwneud llawer o dasgiau mewn amgylchedd prysur, yna allwch chi fod yn person perffaith i ymuno â’r tîm. Mae angen i chi fod yn chwaraewr tîm cryf, yn dda wrth weithio gydag eraill i gael canlyniadau gwych i’n cwsmeriaid ac i’r busnes.

Mae sgiliau cyfrifiadurol cryf hefyd yn hanfodol, ond i ddechrau, byddwn yn rhoi cynllun hyfforddi a sefydlu dwy wythnos i chi i’ch helpu i ddod i adnabod ein busnes a’n sylfaen cwsmeriaid amrywiol.

Os ydych chi awydd y cyfle i weithio mewn amgylchedd prysur ac i gwmni sydd bob amser yn datblygu yna hoffem glywed gennych.

Ac, yn gyfnewid, fe gewch chi fanteision gwych am weithio gyda ni. Byddwch yn cael o leiaf 22 diwrnod o wyliau ynghyd â 8 o wyliau banc y DU. Hefyd fe gewch siawns i ddefnyddio cynllun iechyd a lles, cynlluniau beicio i gwaith, parcio am ddim a cyfleoedd eraill trwy gydol y flwyddyn i fynd allan gyda’ch cydweithwyr a chael rhywfaint o hwyl.

Mae gennym llawer o gyfleoedd llawn ac rhan amser – mae ein swyddfeydd yn agored Dydd Llun i Ddydd Iau: 8.45 i 17.15 ac ar Ddydd Gwener: 8.45 i 16.45

Mae y gallu i siarad Cymraeg a Saesneg yn ddymunol

Mae Cartrefi Conwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

 

Hysbyseb Swydd

 

Disgrifiad Swydd a Proffil Rôl

 

 

Other Careers Available