Mae dros un rhan o dair o gartrefi Cartrefi Conwy ar gyfer pobl sy’n hŷn na 55. Rydym yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau sy’n benodol ar gyfer ein tenantiaid hŷn.
Mae ein Cydlynydd Byw’n Annibynnol a’n Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn yn helpu’r rhai y maent yn eu cefnogi i wella eu bywydau. Maent yn cael eu hannog a’u cefnogi wrth iddynt geisio cyrraedd eu nodau unigol, ond, yn y pen draw, nhw sydd wrth y llyw.
Mae ein holl Gydlynwyr Byw’n Annibynnol, ein Cydlynydd Ymgysylltu â Phobl Hŷn a’n Rheolwr Byw’n Annibynnol yn Gyfeillion Dementia (wedi’u hyfforddi gan y Gymdeithas Alzheimer’s) sy’n deall dementia a sut y gall effeithio ar rywun.
Dros 55 mlwydd oed ac angen ychydig o gymorth ychwanegol? Darganfyddwch fwy am ein gwasanaeth Byw’n Annibynno
Mae ein digwyddiadau a grwpiau rheolaidd ar gyfer ein tenantiaid hŷn ar doriad ar hyn o bryd:
Darganfyddwch fwy am ein Diwrnod Pobl Hŷn blynyddol yma
Darganfyddwch fwy am ein Gweithgareddau ‘Awch at Fywyd’ yma
Darganfyddwch fwy am ‘Rhoi i’ch Ardal’, ein prosiect bancio amser newydd
Rhannwch eich hoffter o ddarllen gydag eraill â’r ‘prosiect darllen ar y cyd’
Mae Cartrefi Conwy wedi ymrwymo i fod yn sefydliad cyfeillgar o Ddemensia
Mae Cartrefi Conwy yn ymwybodol o bwysigrwydd bod yn gysylltiedig â digidol.
Last modified on Gorffennaf 27th, 2020 at 2:24 pm