Ar hyn o bryd mae gennym rôl wag i wirfoddolwr fel aelod cyfetholedig o’n Bwrdd Gwasanaethau Tenant
Gallai’r cyfle gwych hwn eich helpu chi i:
- Adeiladu eich hyder wrth weithio ochr yn ochr ag eraill
- Cynyddu eich gwybodaeth am flaenoriaethau a phrosesau busnes
- Ehangu eich cyfleoedd cyflogaeth
Fel aelod cyfetholedig o’r Bwrdd Gwasanaethau Tenant byddwch yn gweithio ar y cyd ag aelodau’r bwrdd a chydweithwyr i sicrhau ein bod yn:
- Cyflenwi gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
- Darparu tai fforddiadwy o ansawdd i’r rhai mewn angen a
- Gwrando ar lais y tenant trwy ystod o gyfleoedd i denantiaid gymryd rhan a dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau ar lefel strategol.
Byddwch:
- yn cymryd diddordeb gweithredol yng ngwaith Cartrefi Conwy
- yn deall beth sy’n bwysig i’n tenantiaid
- angen paratoi ar gyfer 4 cyfarfod y flwyddyn ar gyfartaledd
- yn cael gwahoddiad i fynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau eraill sy’n berthnasol i bwrpas Cartrefi Conwy
Lawrlwythwch y Pecyn Gwybodaeth
Lawrlwythwch y Ffurflen Gais
Last modified on Medi 30th, 2021 at 10:22 am