Pryd allwn ni ymyrryd?
Gallwn ni ymyrryd os yw:
- Un o’n trigolion yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Un o’n trigolion yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Un o’n trigolion neu ymwelwyr (gan gynnwys plant) ag un o’n eiddo yn achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Rwy’n dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol, beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych chi’n gwybod pwy sy’n achosi’r broblem ac yn teimlo ei bod yn ddiogel gwneud hynny, ceisiwch siarad gyda nhw, gan y gall hyn ddatrys problemau rhwng cymdogion yn sydyn. Os hoffech gyngor ar sut i drafod problem gyda chymydog cysylltwch â ni
Os ydych eisoes wedi ceisio siarad gyda nhw neu os nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn gwneud hynny, neu ddim yn gwybod pwy sy’n achosi’r problem dylech adael i ni wybod am y broblem.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn adrodd am y broblem?
Byddwn yn gofyn cwestiynau er mwyn ein cynorthwyo i gael darlun clir o’r broblem. Rydym yn delio gyda’r achosion mwyaf difrifol yn gyntaf, felly mae’n bwysig rhoi cymaint o fanylion â phosib i ni.
Dylech bob amser gysylltu â’r Heddlu yn gyntaf os ydych wedi eich aflonyddu, wedi’ch bygwth â thrais, os yw rhywun wedi ymosod arnoch neu os oes trosedd arall wedi ei chyflawni.
Bydd yr achos yn cael categori blaenoriaeth o:
1 – Brys
2 – Heb fod yn frys
3 – Digwyddiadau heb fod yn frys / bach / unigol
Bydd pa mor sydyn y gallwch ddisgwyl ymateb gennym ni yn dibynnu ar ddifrifoldeb y digwyddiad.
Bydd Cartrefi Conwy yn derbyn cwynion neu bryderon gan drydydd partïon hefyd lle bo’n addas ac yn defnyddio’r egwyddorion gwarchod data angenrheidiol.
Bydd Cartrefi Conwy hefyd yn ymchwilio i gwynion di enw.
Gallwch adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn nifer o ffyrdd:
Cwblhau ffurflen wê
Ffoniwch ni: 0300 124 0040
Siaradwch gyda’ch swyddog tai
Ewch i ein swyddfeydd
Heddlu Gogledd Cymru: argyfwng brys 999 – heb fod yn frys 101
Last modified on Ebrill 5th, 2021 at 9:17 pm