Croeso i’r wobr ‘rydw i’n talu’
*Mae ein cynllun Gwobrau Cartref o dan adolygiad ar hyn o bryd.
Mae’r wobr hon yn agored i unrhyw denant sy’n talu eu rhent yn brydlon a heb unrhyw ôl-ddyledion. Mae unrhyw denant sy’n ateb y meini prawf i roi cynnig arni’n cael rhoi eu henwau’n awtomatig i raffl fisol, a bydd enw’n cael ei ddewis ar hap ar y 3ydd dydd Gwener o bob mis.
Mae’n rhaid i bob tenant sy’n rhoi cynnig ar y raffl gael:
- Cyfrif clir neu ‘rent mewn credyd’ fis cyn y raffl
- Dim lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn y tair blynedd diwethaf.
- Y tenant arweiniol yn unig sy’n cael cynnig ar y raffl. Ni fydd unrhyw ddeiliaid yn cael eu hystyried ar gyfer y raffl.
Bydd y tenant buddugol yn cael gwybod dim hwyrach nag wythnos ar ôl i’r raffl ddigwydd.
Os ydych mewn ôl-ddyledion rhent ar hyn o bryd ond yn dymuno gwneud trefniant i glirio’r rhain er mwyn cael rhoi cynnig ar rafflau ‘rydw i’n talu’ yn y dyfodol, gallwch siarad â’n tîm incwm:
Ffôn – 0300 124 0040
Neu gallwch dalu ar-lein yma
E-bost: home.rewards@cartreficonwy.org
Cliciwch yma am delerau ac amodau llawn
Last modified on Mai 24th, 2021 at 9:35 am