Mae Cartrefi Conwy’n gweithio gyda deiliaid contract dros 55 mlwydd oed neu unigolion sydd â lefel uchel o angen, a sydd angen ychydig o gymorth i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae gennym dîm rhagorol o Gydlynwyr Byw’n Annibynnol (CBA) a fydd wrth law i’ch helpu gyda:
- Chefnogaeth emosiynol ac arweiniad
- Rhoi gwybod am atgyweiriadau a materion yn ymwneud â thai.
- Rheoli gwaith papur pwysig a gohebiaeth
- Trefnu mynediad at wasanaethau eraill a chymorth proffesiynol
- Cefnogi a hyrwyddo bywyd cymdeithasol gweithgar
- Cadw’n ddiogel yn eich cartref
Rydym yn cefnogi 649 deiliaid contract ar hyn o bryd, gan gynnwys 50 deiliaid contract sy’n byw tu allan i ein cynlluniau byw’n annibynnol traddodiadol.
Dewch i adnabod ein Tîm o Gydlynwyr Byw’n Annibynnol a dewch i wybod yn union le maent yn gweithio.
Os hoffech chi dderbyn cymorth a chefnogaeth o ddydd i ddydd cysylltwch â ni neu anfonwch e-bost at independentlivingservice@cartreficonwy.org
Byw’n Annibynnol / Independent Living from Cartrefi Conwy on Vimeo.
CEFNOGI POBL
Ariennir y rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru. Mae’n darparu cefnogaeth sydd o gymorth i bobl ddiamddiffyn fyw mor annibynnol â phosib, drwy gynnig cefnogaeth iddynt allu byw yn eu cartrefi eu hunain neu mewn tai arbenigol eraill. Gweledigaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl yw helpu pobl i ddod o hyd a chadw cartref sy’n diwallu eu hanghenion ac yn annog annibyniaeth mewn amgylchedd iach a diogel. Ariennir ein Cydlynwyr Byw’n Annibynnol yn rhannol gan y rhaglen hon.
Cefnogi Pobl / Supporting People 2017 from Cartrefi Conwy on Vimeo.
Cefnogi Pobl / Supporting People from Cartrefi Conwy on Vimeo.
POBL HŶN YN CYMRYD RHAN
Rydym wedi ymroi i hyrwyddo annibyniaeth a gwella bywydau drwy gynnwys ein hunigolion hŷn wrth siapio’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn. Rydym yn cynnal sawl prosiect sydd o gymorth i bobl hŷn wella eu hiechyd a lles, gan gynnwys rhaglenni Awch am Fywyd a Give Where You Live a’r Diwrnod Pobl Hŷn blynyddol, digwyddiad sy’n dathlu’r cyfraniadau y mae pobl hŷn yn eu gwneud o fewn ein cymunedau. Dewch i wybod mwy am y prosiectau a’r digwyddiadau hyn yma
Cymryd Rhan / Get Involved from Cartrefi Conwy on Vimeo.
Sylwer: Eiddo Byw’n Annibynnol yw’r enw newydd ar gyfer Tai Gwarchod; Cydlynwyr Byw’n Annibynnol yw’r enw newydd ar gyfer Wardeniaid.
Last modified on Tachwedd 30th, 2022 at 6:00 pm