Partneriaid Cartref

Partneriaid Cartref

Mae’r tîm Partner Cartref yn cyfarfod tenantiaid yn eu cartrefi drwy gydol y flwyddyn i’n helpu i wella’r gwasanaethau y maent yn ei dderbyn.

Ers i’r gwasanaeth hwn gael ei gyflwyno, rydym wedi helpu cannoedd o denantiaid gydag ystod o faterion gan gynnwys arbed arian ar filiau tanwydd, cyllidebu a chymorth ariannol a chefnogaeth tai.  Cydnabuwyd manteision y gwasanaeth Partner Cartref i denantiaid yn ddiweddar pan gafodd wobr fawreddog yng Ngwobrau Tai Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, yn dilyn pleidlais gan ei aelodau.

Mae’r Partner Cartref yn dod gyda’n peirianwyr nwy pan fyddant yn dod i gynnal eich gwiriad diogelwch nwy blynyddol.

Cofiwch – os bydd y partner cartref yn dod i ymweld â chi, a bod eich eiddo yn lân a thaclus, byddwch yn cael bod yn rhan o raffl gwobr cartref i ennill £100!

Last modified on Chwefror 19th, 2020 at 4:02 pm