Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch rhent, cysylltwch â ni.
Rydym yma i’ch helpu chi, a gorau po gyntaf y rhowch chi wybod i ni eich bod yn cael problemau, gan y gallwn ni eich helpu i’w datrys.
Mae gennym ni dîm cynhwysiant ariannol ymroddedig all eich helpu a’ch cefnogi chi gydag amrywiaeth o faterion ariannol, gan gynnwys:
- Cyngor ar gyllidebu
- Rheoli dyledion
- Hawlio budd-daliadau
Os na fyddwch chi’n talu’ch rhent nac yn cysylltu â ni i geisio datrys y broblem, fe allech chi gael eich hel allan o’ch eiddo, felly, da chi, cysylltwch â ni:
Ffoniwch ni: 0300 124 0040
Anfonwch neges e-bost: ymholiadau@cartreficonwy.org
Mae yna nifer o adnoddau buddiol ar ein Tudalennau Cymryd y Llyw i’ch helpu chi i gyllidebu o ddydd i ddydd.
Last modified on Mehefin 24th, 2019 at 2:46 pm