Arweinydd Tîm CC – Cynaliadwyedd Tenantiaeth

Arweinydd Tîm CC – Cynaliadwyedd Tenantiaeth

Arweinydd Tîm CC – Cynaliadwyedd Tenantiaeth

End Date: 12th October 2026

Lleoliad: Morfa Gele
⏰ Oriau: 37 awr yr wythnos, Contract Cyfnod Penodol dwy flynedd, Cartrefi Conwy
​ Cyflog: Graddfa 7 Y £37,096

​​Apply here

Helpu pobl i ffynnu yn eu cartrefi a’u cymunedau

Yng Nghartrefi Conwy rydym wedi ymrwymo i greu cymunedau cryfach a chefnogi pobl i fyw’n dda yn eu cartrefi. Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm – Cynaliadwyedd Tenantiaeth ysbrydoledig a rhagweithiol i arwain gwasanaethau sy’n helpu tenantiaid i feithrin gwytnwch, goresgyn heriau a chynnal tenantiaethau llwyddiannus.

Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i arwain tîm ymroddedig sy’n canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, atal a chefnogaeth ymarferol. Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn darparu gwasanaethau a fydd yn gwella lles ariannol, mynd i’r afael â thlodi, hybu cynnal tenantiaeth a chysylltu pobl gyda’r gefnogaeth maent ei hangen i lwyddo.

​

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Fel Arweinydd Tîm, fe fyddwch yn:

  • Arwain a datblygu’r tîm Cynaliadwyedd Tenantiaeth gan greu diwylliant cadarnhaol a chefnogol.
  • Goruchwylio mentrau cynaliadwyedd tenantiaeth sy’n gwella’r canlyniadau i denantiaid.
  • Rheoli prosiectau gan gynnwys y Prosiect Dodrefn Ail Gyfle ac ymgyrch Yma i Wrando: Yma i Helpu.
  • Arwain ymweliadau ymgartrefu a mentrau croesawu sy’n cefnogi tenantiaid newydd o ddechrau eu tenantiaeth.
  • Cymell mentrau sy’n mynd i’r afael â thlodi, gwella cynhwysiant ariannol a helpu tenantiaid i sicrhau’r incwm mwyaf posibl.
  • Ffurfio partneriaethau cryf gyda sefydliadau lles, iechyd, cynhwysiant ariannol a chefnogi.
  • Monitro perfformiad, dangos effaith cymdeithasol a gwella gwasanaethau’n barhaus.
  • Cefnogi diogelu a sicrhau fod tenantiaid yn derbyn cefnogaeth effeithiol sydd wedi ei chydlynu.

​

Am beth rydym ni’n chwilio?

Byddwch yn arweinydd sy’n canolbwyntio ar bobl gyda phrofiad o’r isod:

✅ Arwain, ysgogi a datblygu cydweithwyr.

✅ Darparu cefnogaeth gyda thenantiaeth, cefnogaeth gyda thai neu wasanaethau sy’n ymdrin â chwsmeriaid.

✅ Ffurfio partneriaethau effeithiol a pherthnasoedd gyda budd-ddeiliaid.

✅ Rheoli prosiectau, mentrau a gwella gwasanaethau.

✅ Cyflawni targedau gwasanaeth a gwella canlyniadau i gwsmeriaid.

✅ Deall cynaliadwyedd tenantiaeth a dulliau ataliol o ran cefnogaeth.

​

Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol ynglŷn â chefnogi pobl, datblygu cydweithwyr a darparu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn a pharhaus.

Gwnewch gais yma

Gwireddu Ymrwymiadau Cartrefi

Fel Arweinydd Tîm – Cynaliadwyedd Tenantiaeth, byddwch yn:

  • Gwneud yr hyn sy’n iawn drwy sicrhau fod tenantiaid yn derbyn y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn, gan eu helpu nhw i oresgyn heriau a chynnal tenantiaethau’n llwyddiannus.
  • Arwain drwy esiampl drwy arweinyddiaeth ragweithiol, sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau sy’n grymuso cydweithwyr a chymell gwelliant parhaus.
  • Cryfach gyda’n gilydd drwy gydweithio gyda chydweithwyr, partneriaid a chymunedau i ddarparu cefnogaeth ar y cyd a chyflawni gwell canlyniadau i denantiaid.

Pam ymuno â Chartrefi Conwy?

Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i siapio gwasanaethau sy’n gwella bywydau yn uniongyrchol. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid ymroddedig i gael gwared ar rwystrau, cryfhau gwytnwch a helpu tenantiaid i lwyddo yn eu cartrefi a’u cymunedau.  Os ydych chi’n angerddol ynglŷn â chefnogi pobl ac arwain newid cadarnhaol fe hoffem glywed gennych chi.

Gweler y swydd-ddisgrifiad llawn yma

​Gwnewch gais yma

Gwybodaeth Cyfle Cyfartal 

​

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS manwl.

Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu dod â’u hunain yn gyfan i’r gwaith.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, profiad a chymuned, ac rydym yn credu bod safbwyntiau amrywiol yn cryfhau ein sefydliad a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio’n deg, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiduedd i bawb. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a meddu ar y Wobr QED.

Er bod gweithio gyda’n gilydd fel Un Tîm yn ein gwneud ni’n gryfach, rydym yn dathlu unigoliaeth ac yn cydnabod bod ein gwahaniaethau yn un o’n cryfderau mwyaf.

Os ydych chi angen unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni yn defnyddio eich dull cyfathrebu dewisol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad hygyrch a chadarnhaol i bob ymgeisydd.

​

Cyfleoedd Cyfartal

Rydym yn dymuno cyflawni’r nodau a’r ymrwymiadau a nodir yn ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a datblygu darlun cywir o gyfansoddiad y gweithlu wrth annog cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Mae angen eich cymorth a’ch cydweithrediad arnom i wneud hyn; fodd bynnag, mae llenwi’r ffurflen hon yn wirfoddol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac fe’i defnyddir at ddibenion monitro yn unig: Equal Opportunities Monitoring Form

Other Careers Available