Rheolwr Adfer Rhent

Rheolwr Adfer Rhent

Rheolwr Adfer Rhent

End Date: 3rd May 2026

Rheolwr Adfer Rhent

Lleoliad: Morfa Gele
Cyflog: £40,557 y flwyddyn
Oriau: Amser llawn, 37 awr yr wythnos  
Cyfnod penodol am 2 flynedd

Ydych chi’n credu bod gwasanaethau incwm gwych yn ymwneud â phobl, nid rhifau’n unig?
Yn Cartrefi Conwy, rydym yn chwilio am Reolwr Adfer Rhent ysbrydoledig i arwain ein tîm, uchafu incwm rhent ac, yn bwysicaf oll, helpu ein cwsmeriaid i gynnal eu cartrefi drwy ymyrraeth gynnar, gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth dosturiol.

Mae hon yn rôl allweddol o fewn ein Gwasanaeth Cymdogaethau, yn cefnogi tua 4,000 o gartrefi ac yn chwarae rhan hanfodol yn cyflawni ein Cynllun Corfforaethol Gyda’n Gilydd 2025–2028 uchelgeisiol. Byddwch yn arwain tîm medrus, yn gweithio’n agos gyda phartneriaid mewnol ac allanol, ac yn helpu i lunio gwasanaeth adfer rhent modern, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn.

Byw ein gwerthoedd – bob dydd

Mae’r rôl hon wrth galon ein tri philer:

  • Rydym yn gryfach gyda’n gilydd – gweithio’n gydweithredol gyda chydweithwyr, partneriaid a chwsmeriaid i gynnal tenantiaethau ac adeiladu cymunedau gwydn.
  • Rydym yn arwain drwy esiampl – gosod safonau clir, cefnogi a datblygu eraill, a gyrru tîm sy’n perfformio’n uchel ac sy’n cael ei arwain gan werthoedd.
  • Rydym yn gwneud y peth iawn – cydbwyso adfer incwm effeithiol â thegwch, uniondeb ac empathi ym mhob penderfyniad a wnawn.

Os ydych yn angerddol am dai, yn hyderus wrth arwain pobl, ac yn cael eich ysgogi gan greu canlyniadau cadarnhaol i gymunedau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Other Careers Available