Syrfëwr Eiddo Cynnal a Chadw

Syrfëwr Eiddo Cynnal a Chadw

Syrfëwr Eiddo Cynnal a Chadw

End Date: 2nd September 2025

Yn Cartrefi Conwy, rydym yn falch o fod yn fwy na dim ond darparwr tai. Ein pwrpas yw cynnig cartrefi fforddiadwy a diogel wrth greu cyfleoedd i’n tenantiaid ffynnu.

Wedi’i arwain gan ein tri ymrwymiad – rydyn ni’n gwneud y peth iawn, rydym yn arwain trwy esiampl ac, rydyn ni’n gryfach gyda’n gilydd – byddwn yn sicrhau bod pob penderfyniad a wnawn yn rhoi cwsmeriaid a chymunedau yn gyntaf. Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar, blaengar gyda chyfleoedd i dyfu a chael effaith wirioneddol.

Fel ein Syrfëwr Eiddo Cynnal a Chadw, byddwch yn chwarae rôl allweddol yn ein helpu i gyflawni hyn drwy sicrhau bod ein stoc dai yn ddiogel, yn cael ei chynnal yn dda, ac yn rhydd o leithder a llwydni. Byddwch yn cynnal arolygiadau technegol, yn gwneud diagnosis o broblemau, ac yn goruchwylio gwaith adfer – gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les ein tenantiaid trwy ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf tra’n cefnogi cyflawni ein Cynllun Corfforaethol Gyda’n Gilydd.

  • Bydd angen gwiriad DBS Sylfaenol ar gyfer y swydd hon – a ariennir gan y cyflogwr

Manylion Cyflog: £39,913 – £40,395 y flwyddyn

Oriau: 37 awr

Contract:  Parhaol

Lleoliad: Symudol yn ardal weithredol Cartrefi Conwy

Beth fyddwch yn ei gael gennym am hunny:

  • Amryw o fuddion a gwasanaethau cwmni gan gynnwys atgyfeiriadau Iechyd Galwedigaethol, cynllun Beicio i’r Gwaith, Tâl Salwch Uwch, Gwell Polisïau a Gweithdrefnau Cyfeillgar i Deuluoedd, Cynllun arian yn ôl am ofal iechyd, Grantiau datblygiad personol a mwy!
  • 25 diwrnod o wyliau yn ogystal ag 8 Gŵyl Banc
  • Dewis o 2 bensiwn

Yn barod i wneud cais?

Gwnewch gais yn awr a’n helpu i adeiladu’r sylfeini digidol sy’n cefnogi cartrefi, cymunedau a dyfodol, neu cysylltwch â ni yn recruitment@cartreficonwy.org am ragor o wybodaeth.

Cliciwch yma am Maintenance Property Surveyor JDPS – Cym

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau o bob cefndir. Os oes angen unrhyw addasiadau arnoch yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni.

 

Other Careers Available