Ymgynghorydd Pobl Cynorthwyol
End Date: 11th October 2026
Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl Cynorthwyol i ymuno â’n Tîm Pobl sy’n seiliedig yn Abergele.
Ydych chi’n malio am y gwahaniaeth allwch chi ei wneud, yn ffynnu ar gael pethau’n iawn y tro cyntaf, ac yn deall yr effaith all gwasanaeth gwych ei chael ar brofiad cydweithwyr?
Lleol: Morfa Gele, Abergele
Oriau: 37 awr yr wythnos, parhaol
Cyflog: Hyd at £34,677
Mae’r rôl yn un amrywiol, fydd yn addas ar gyfer rhywun trefnus a rhagweithiol sy’n gweithio gyda phobl i ddarparu cefnogaeth rheng flaen i gydweithwyr a rheolwyr ar draws cylch oes gweithwyr wrth ein helpu i ddefnyddio systemau, awtomatiaeth a data’n well i greu ffyrdd mwy syml, deallus ac effeithiol o weithio.
Fel cymdeithas tai arobryn â phwrpas cymdeithasol cryf, rydym yn ymrwymedig i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu ar draws gogledd Cymru.
Ynghyd â chyflog o hyd at £34,677, byddwch yn elwa o ddiwylliant gweithio hyblyg, gwyliau blynyddol hael, dewisiadau pensiwn, cefnogaeth â datblygiad proffesiynol ac amrywiaeth o fuddion sy’n gyfeillgar i ffordd o fyw.
Os ydych chi’n cael eich sbarduno gan wneud gwahaniaeth a chefnogi pobl, croesawu newid a chwilio am ffordd well o wneud pethau, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych chi.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS.
Diolch i chi am eich diddordeb mewn ymuno â ni. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu dod â’u hunain yn gyfan i’r gwaith.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir, profiad a chymuned, ac rydym yn credu bod safbwyntiau amrywiol yn cryfhau ein sefydliad a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein proses recriwtio’n deg, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn ddiduedd i bawb. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd a meddu ar y Wobr QED.
Er bod gweithio gyda’n gilydd fel Un Tîm yn ein gwneud ni’n gryfach, rydym yn dathlu unigoliaeth ac yn cydnabod bod ein gwahaniaethau yn un o’n cryfderau mwyaf.
Os ydych chi angen unrhyw addasiadau neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch â ni yn defnyddio eich dull cyfathrebu dewisol. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad hygyrch a chadarnhaol i bob ymgeisydd.
Cyfleoedd Cyfartal
Rydym yn dymuno cyflawni’r nodau a’r ymrwymiadau a nodir yn ein polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a datblygu darlun cywir o gyfansoddiad y gweithlu wrth annog cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Mae angen eich cymorth a’ch cydweithrediad arnom i wneud hyn; fodd bynnag, mae llenwi’r ffurflen hon yn wirfoddol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac fe’i defnyddir at ddibenion monitro yn unig: Equal Opportunities Monitoring Form