Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol

Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol

End Date: 13th August 2021

Cartrefi Conwy yw’r landlord cymdeithasol mwyaf yn sir Conwy, gyda dros 4000 o gartrefi dros Ogledd Cymru. Mae ein pwrpas cymdeithasol yn glir; i greu cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt, drwy roi ein cwsmeriaid gyntaf a sicrhau gwerth i bawb.  Rydym ni’n sefydliad uchelgeisiol sy’n chwilio am rywun sy’n greadigol ac yn arloesol, ac yn gallu defnyddio amrywiaeth o lwyfannau, sianeli a thechnegau i ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol.  Yn y rôl yma byddwch yn:

 

  • Llunio a gweithredu Strategaeth Gyfathrebu a Marchnata newydd, yn unol â dyheadau ein Cynllun Busnes a blaenoriaethau sydd wedi eu cytuno gan y Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol.
  • Dylanwadu ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol (yn fewnol ac allanol) gan ddefnyddio ystod o sianeli, llwyfannau a thechnegau.
  • Cynnal ystod o ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata a phrosiectau er mwyn gwella ein proffil corfforaethol, ein henw da a chydnabyddiaeth ein brand ar lefel leol a chenedlaethol.

 

Lawrlwythwch y disgrifiad swydd

Lawrlwythwch fanyleb y person

 

Other Careers Available