Swyddog Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol
End Date: 13th August 2021
Cartrefi Conwy yw’r landlord cymdeithasol mwyaf yn sir Conwy, gyda dros 4000 o gartrefi dros Ogledd Cymru. Mae ein pwrpas cymdeithasol yn glir; i greu cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt, drwy roi ein cwsmeriaid gyntaf a sicrhau gwerth i bawb. Rydym ni’n sefydliad uchelgeisiol sy’n chwilio am rywun sy’n greadigol ac yn arloesol, ac yn gallu defnyddio amrywiaeth o lwyfannau, sianeli a thechnegau i ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol. Yn y rôl yma byddwch yn:
- Llunio a gweithredu Strategaeth Gyfathrebu a Marchnata newydd, yn unol â dyheadau ein Cynllun Busnes a blaenoriaethau sydd wedi eu cytuno gan y Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol.
- Dylanwadu ac ymgysylltu â budd-ddeiliaid allweddol (yn fewnol ac allanol) gan ddefnyddio ystod o sianeli, llwyfannau a thechnegau.
- Cynnal ystod o ymgyrchoedd cyfathrebu a marchnata a phrosiectau er mwyn gwella ein proffil corfforaethol, ein henw da a chydnabyddiaeth ein brand ar lefel leol a chenedlaethol.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd