Ymgynghorydd y Gofrestr Dai
End Date: 15th February 2026
Ymunwch â ni fel Ymgynghorydd y Gofrestr Dai!
Ydych chi’n angerddol dros helpu pobl i ddod o hyd i gartrefi diogel a sicr? Ydych chi’n mwynhau gweithio mewn amgylchedd prysur sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, lle mae pob dydd yn rhoi cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn?
Mae Cartrefi Conwy yn chwilio am Gynghorydd y Gofrestr Dai i fod yn bwynt cyswllt cyntaf cyfeillgar a gwybodus i’r rhai sy’n chwilio am opsiynau tai ar draws Conwy.
Yn y rôl flaenllaw bwysig hon, byddwch yn rhoi arweiniad, yn asesu ceisiadau tai, yn gweithio gydag asiantaethau partner, ac yn sicrhau bod pob cwsmer yn cael gwasanaeth cefnogol o safon uchel sy’n dangos ein holl opsiynau tai.
Yn Cartrefi Conwy, mae’r ffordd rydym yn gweithio yr un mor bwysig â’r hyn rydym yn ei wneud. Dyna pam rydym yn chwilio am bobl sy’n rhannu ein tri Ymrwymiad Cartrefi:
Gwneud y peth iawn – gweithredu gydag uniondeb, tegwch a phroffesiynoldeb gyda phob cwsmer.
Arwain drwy esiampl – bod yn rhagweithiol, yn canolbwyntio ar atebion ac yn cymryd cyfrifoldeb mewn gwasanaeth cyflym.
Cryfach gyda’n gilydd – cydweithio, cyfathrebu’n agored a chefnogi cydweithwyr i sicrhau’r canlyniadau gorau.
Os ydych chi’n gofalu am bobl, yn mwynhau datrys problemau, ac yn gweithio’n dda fel rhan o dîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Gwnewch gais rwan a helpwch i greu teithiau tai gwell ar draws Conwy.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cyflog: Gradd 4 £25,611 i £27,358 gros y flwyddyn
Contract: Contract tymor penodol hyd at 31 Mawrth 2027
Dyddiad cau: 15 Chwefror 2026
Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn ein Prif Swyddfa yn Abergele
Bydd DBS sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y swydd hon – wedi’i dalu gan y cyflogwr