Cyllidebu gyda’r Credyd Cynhwysol

 

Byddwch yn derbyn eich holl fudd-daliadau mewn un cyfandaliad bob mis gyda’r Credyd Cynhwysol.  O bosib bydd hyn yn golygu bod rhaid i chi reoli eich arian mewn ffordd wahanol i sicrhau eich bod yn talu eich biliau pwysig ar amser (gan gynnwys rhent, treth y cyngor, nwy a thrydan ac ati) ac i sicrhau bod gennych ddigon o arian i bara am weddill y mis.

Y cam cyntaf i reoli eich arian yw cyllidebu. Bydd angen ychydig o ymdrech, ond mae’n ffordd wych o gael cipolwg cyflym ar yr arian sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan.

 

Mae gosod cyllideb yn golygu:

 

  • eich bod yn llai tebygol o fynd i ddyled
  • yn llai tebygol o gael eich dal allan gan gostau annisgwyl
  • yn fwy tebygol o gael statws credyd da
  • yn fwy tebygol o gael eich derbyn ar gyfer morgais neu fenthyciad
  • yn gallu adnabod y meysydd y gallwch wneud arbedion
  • mewn sefyllfa wych i gynilo ar gyfer gwyliau, car newydd neu drît arall.

 

Beth ydych chi ei angen

 

Mae dros hanner aelwydydd y DU yn cadw at gyllideb rheolaidd. Mae’r mwyafrif yn dweud ei fod yn rhoi tawelwch meddwl ynglŷn â faint maent yn wario, ac mae’n gwneud iddynt deimlo’n well am fywyd yn gyffredinol. Gallwch reoli eich arian yn well gyda’n hadnodd cynllunydd Cyllideb.

 

  • I gychwyn cyllidebu, byddwch angen edrych faint rydych chi’n ei wario ar:
  • filiau’r aelwyd
  • costau byw
  • cynnyrch ariannol (yswiriant…)
  • teulu a ffrindiau (anrhegion…)
  • Teithio (costau car, cludiant cyhoeddus…)
  • Hamdden (gwyliau, chwaraeon, bwytai…)

 

Fel arall fe allwch osod cyllideb yn defnyddio taenlen neu ysgrifennwch y cyfan i lawr ar bapur.

 

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol lawer o awgrymiadau a chyngor cyllidebu.

 

 

Y ffyrdd gorau i dalu biliau

 

Mae talu eich biliau ar amser yn sgil anodd, ond hanfodol i’w dysgu.  Dyma argymhellion am sut i reoli eich biliau:

 

Byddwch yn drefnus – Prynwch ffolder i gadw eich biliau ynddo. Os ydi eich biliau yn rhai digidol, rhowch nhw mewn ffeil ar eich cyfrifiadur. Cadwch gofnod o pryd maent angen eu talu.

Angen cymorth i reoli eich arian? Rhowch gynnig ar ein adnodd rhad ac am ddim sydd yn hawdd i’w ddefnyddio – Cynllunydd Cyllideb.

Dewiswch ddull o dalu sydd yn addas i chi – debyd uniongyrchol ydi’r ffordd rhataf a hawsaf o dalu biliau am eich bod yn gallu trefnu i’ch biliau gael eu talu ar ôl y dyddiad rydych yn derbyn eich arian. Os ydych chi’n denant i Cartrefi Conwy gallwch dalu eich rhent yn wythnosol, bob pythefnos, bob 4 wythnos neu bob mis.  Os nad ydych chi’n talu drwy Ddebyd Uniongyrchol ond eisiau dechrau gwneud taliadau yn y ffordd hawdd a chyfleus hon, ffoniwch ni ar 0300 124 0040.

Gwiriwch eich biliau’n rheolaidd – Bydd hyn yn golygu y gallwch sylwi ar unrhyw gamgymeriadau a byddwch yn sylwi os bydd eich biliau yn cynyddu neu’n lleihau. Dewiswch ddiwrnod bob mis a defnyddiwch galendr neu ap i sicrhau nad ydych yn anghofio. Gallwch wirio taliadau ar eich cyfriflenni banc.

Peidiwch â gadael i’ch biliau eich llethu – Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau, peidiwch ag anwybyddu’r broblem, dim ond gwaethygu pethau wnaiff hynny. Gall ein tîm cymorth arian eich cefnogi os ydych chi’n cael trafferth.

Sicrhewch nad ydych yn talu gormod – Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol wybodaeth amrywiol am sut y gallwch arbed arian ar eich biliau.

 

 

Poeni am Credyd Cynwhysol?  Awydd cyngor? Mae ein Tim Cymorth Arian allan ac o gwmpas eich cymunedau ich helpu trwy Credyd Cynhwysol. Mwy o Wybodaeth

 

Last modified on Chwefror 18th, 2020 at 2:54 pm