Ffeithiau allweddol am Credyd Cynhwysol:
- Os ydych chi’n derbyn help gyda’ch rhent, bydd hyn yn cael ei gynnwys yn eich taliad misol – yna byddwch yn talu eich landlord yn uniongyrchol.
- Caiff y Credyd Cynhwysol ei dalu fel ôl-ddyledion misol felly gall gymryd o leiaf pum wythnos ar ôl i chi wneud eich hawliad tan y byddwch yn derbyn eich taliad cyntaf.
- Mae’n rhaid i chi wneud eich hawliad ac aros mewn cysylltiad ar-lein.
- Mae’n rhaid bod gennych gyfrif banc er mwyn gallu derbyn y Credyd Cynhwysol.
- Os ydych chi’n byw gyda rhywun fel cwpl a bod gan y ddau/ddwy ohonoch hawl i hawlio’r Credyd Cynhwysol, byddwch yn derbyn un taliad misol ar y cyd a fydd yn cael ei dalu mewn i un cyfrif banc.
- Nid oes cyfyngiadau ar faint o oriau’r wythnos y gallwch eu gweithio os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol. Yn hytrach, bydd y swm y byddwch y ei gael yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy, felly ni fyddwch yn colli’ch holl fudd-dal ar unwaith.
Os ydych chi’n poeni ynghylch sut y byddwch chi’n rheoli eich arian nes i chi gael eich taliad cyntaf, darllenwch ganllaw’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol Cefnogaeth tra’n aros am daliadau budd-dal
Neu gallwch drefnu i gwrdd â’n Tîm Cymorth Arian
Mae ein Tim Cymorth Arian allan ac o gwmpas eich cymuned i helpu chi trwy Credyd Cynhwysol. Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth ar Credyd Cynhwysol
Last modified on Gorffennaf 3rd, 2019 at 4:55 pm