![]()
Fe fydd y Credyd Cynhwysol yn effeithio ar fwy o bobl eleni. Os ydych chi’n byw yng Nghonwy, a’ch bod yn derbyn budd-daliadau a bod eich hamgylchiadau’n newid neu os ydych chi’n hawlydd newydd, bydd gofyn i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Gallai newid mewn amgylchiadau gynnwys:
- Eich bod yn iach i weithio felly bod y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben
- Perthynas yn dechrau neu’n dod i ben
- Profedigaeth
- Newid yn eich oriau gwaith
- Colli swydd
- Lwfans Ceisio Gwaith i Gymhorthdal Incwm yn sgil genedigaeth baban
- Dod yn ofalwr
- Plentyn ieuengaf yn troi’n 5 oed
- Yn gallu gweithio wedyn yn cael eich taro’n wael
- Hawliad newydd am Fudd-dal Tai
- Symud o un Awdurdod Lleol i un arall
Poeni am Credyd Cynwhysol? Angen cyngor? Mae ein Tim Cymorth Arian allan ac o gwmpas eich cymuned i helpu chi trwy Credyd Cynhwysol. Mwy o wybodaeth
Mwy o wybodaeth ar Credyd Cynhwysol
Last modified on Ebrill 1st, 2021 at 5:33 pm