Mae Cartrefi Conwy yn cynnal gwiriadau a gwasanaethau diogelwch offer nwy blynyddol.
Gellir ond gwneud y gwiriadau diogelwch trwy adael i’n peirianwyr nwy ddod i mewn i’ch eiddo.
Gofynnwch am gael gweld cerdyn adnabod cofrestr diogelwch nwy y peiriannydd nwy
GWASANAETHAU ARGYFWNG NWY 0800 111 999 (mae hwn yn llinell argyfwng 24 awr).
Os ydych yn arogli nwy, yn meddwl bod gennych nwy yn gollwng, neu yn poeni fod mygdarth sy’n cynnwys carbon monocsid yn dianc o offer nwy, ffoniwch y llinell gwasanaethau argyfwng Nwy am ddim ar unwaith ar 0800 111 999.
Cofiwch:
- Ynysu’r cyflenwad nwy.
- Agor yr holl ddrysau a ffenestri i awyru’r eiddo.
- Peidiwch â defnyddio unrhyw switshis trydanol.
- Diffoddwch bob fflam, peidiwch ag ysmygu, tanio matsis na gwneud unrhyw beth a allai achosi tanio.
- Os oes unrhyw ffonau/cloeon drws mynediad trydanol, agorwch y drws â llaw.
- Cadwch bobl draw o’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.
Yn rhan o Wythnos Diogelwch Nwy 2020 ac i dynnu sylw at bwysigrwydd diogelwch nwy, mae ffilm fer Ripple Effect yn adrodd stori cymdogaeth gyffredin, yn ystod noson gyffredin pan fydd digwyddiad anghyffredin yn digwydd – mae ffrwydrad nwy yn rhwygo trwy dŷ teras gyda chanlyniadau dinistriol. . Ond beth achosodd hynny? Gwyliwch y ffilm fer a cewch ragor o wybodaeth trwy wefan Gas Safe Register.
https://www.gassaferegister.co.uk/therippleeffect/
Last modified on Hydref 12th, 2020 at 2:35 pm