Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i sicrhau bod ein holl denantiaid yn ddiogel, rydym yn gosod synwyryddion Carbon Monocsid (CO) ym mhob un o’n cartrefi sydd ag offer llosgi nwy, olew neu danwydd solet.
Pryd fyddwn ni’n gosod y synwyryddion?
Rydym eisoes wedi dechrau gosod y synwyryddion a byddwn yn parhau i wneud hynny nes bod yr holl gartrefi gofynnol wedi’u gwbwlhau
Pam fod angen i ni wneud y gwaith hwn?
Mae carbon monocsid yn ddi-liw ac yn ddiarogl. Felly, os yw peiriant llosgi tanwydd yn rhyddhau’r nwy marwol, ni fyddwch yn gallu ei arogli na’i weld.
Mae larymau carbon monocsid wedi’u cynllunio i seinio pan fo’r crynodiadau o CO yn yr aer yn ddigon i’ch niweidio. Bydd larwm CO yn canu pan fydd yn canfod y nwy a bydd yn ddigon uchel i rybuddio pawb yn y tŷ.
Unwaith y bydd fy synhwyrydd wedi’i osod, beth ddylwn i ei wneud os bydd y larwm CO yn dechrau canu?
- Peidiwch â chynnau’r goleuadau, ysmygu na tharo matsys
- Os yn bosibl, diffoddwch yr holl offer llosgi tanwydd
-
Gadael eich ty
-
Ffoniwch y llinell gymorth argyfwng: Os ydych yn credu bod eich argyfwng carbon monocsid wedi’i achosi gan declyn nwy, ffoniwch y gwasanaeth brys nwy ar 0800 111 999. Os ydych yn defnyddio olew i wresogi eich cartref, ffoniwch Oftec ar 01473 626 298. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ffoniwch 999 .
- Ceisiwch gyngor meddygol: os ydych yn teimlo’n sâl neu’n cael unrhyw un o symptomau gwenwyn carbon monocsid ar ôl i’ch larwm ganu, cysylltwch â’ch meddyg teulu ar unwaith neu ffoniwch 999.
Mae gen i synwyryddion CO yn fy nghartref yn barod
Os oes gennych larwm eisoes wedi’i osod, bydd angen mynediad i’ch cartref i gadarnhau ei leoliad ac a yw’n gweithio.
Pwy fydd yn gosod y synwyryddion?
Bydd y sawl sy’n ymweld yn weithiwr hyfforddedig i Cartrefi Conwy, Creu Menter neu un o’n partneriaid dibynadwy. Bydd ganddynt fathodyn adnabod a llythyr i egluro pam fod angen mynediad iddynt
Sicrhewch eich bod yn caniatáu mynediad i ni i’ch eiddo pan fyddwn yn galw. Os hoffech drefnu apwyntiad, ffoniwch ein Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040.
Gallwch ddarganfod yma
Last modified on Mai 9th, 2022 at 11:38 am