![]()
Mae Colin ar hyn o bryd yn byw ym Mae Colwyn, ond cafodd ei eni a’i addysgu yn Lloegr. Pan oedd yn ifanc, cynrychiolodd Colin siroedd mewn athletau, ac wedi chwarae pêl-droed dros dref a sir.
Mae wedi gweithio mewn sawl rôl drwy gydol ei fywyd gwaith. Mae wedi ennill profiad helaeth yn y diwydiannau adeiladu, cynhyrchu a busnes.
Mae Colin wedi bod yn cefnogi Cartrefi Conwy am dair blynedd, lle eisteddodd ar Bwyllgor Rheoli Tenantiaid a’r Panel Cist Gymunedol. Mae hefyd wedi bod yn rhan o bwyllgorau amrywiol eraill, gan gynnwys Pwyllgor Ymgynghorol Gogledd Cymru, a Phwyllgor Gweithredol Grŵp Cydraddoldeb Gogledd Cymru. Fe wnaeth Colin ddechrau a chadeirio sefydliad elusennol.
Mae Colin bellach wedi ymddeol. Mae’n rhoi ei amser yn bod yn weithgar yn y gymuned, lle mae’n treulio amser yn ymgysylltu â thenantiaid Cartrefi Conwy a’u cyfeirio at y gefnogaeth/gwasanaethau cefnogi addas. Mae Colin yn mwynhau gallu defnyddio ei wybodaeth a’i brofiad i helpu Cartrefi Conwy barhau i greu tai o ansawdd uchel ac amgylcheddau byw da i bob tenant.
Yn ei amser rhydd, mae Colin yn hoffi gwneud rhywfaint o arddio, darllen ac archwilio lle mae’n gallu.
Last modified on Tachwedd 7th, 2019 at 11:08 am