Pwrpas y Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid yw cynghori Bwrdd Cartrefi Conwy ar ei gyfrifoldebau i sicrhau darpariaeth o dai fforddiadwy cynaliadwy a gwasanaethau cymorth, ynghyd â gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol sy’n cael ei lywio gan safbwyntiau ac anghenion ein tenantiaid, trigolion ac eraill yr ydym yn gweithio gyda nhw. Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Tenantiaid yn ceisio sicrwydd, yn cynghori ac yn adrodd i Fwrdd Cartrefi Conwy ac, lle bo’n briodol, yn gwneud penderfyniadau ar ran y Bwrdd hwnnw, ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd strategaeth, polisi ac arferion sy’n berthnasol i’r materion canlynol:
- Cyflenwad, dyraniad a rheolaeth tai
- Ansawdd a safonau tai
- Gwasanaeth cwsmeriaid: dewis, safonau, cyfathrebu
- Diogelu, Iechyd a Diogelwch
- Ymgysylltu â’r gymuned, datblygu ac adfywio
- Cost, fforddiadwyedd a gwerth am arian tai a gwasanaethau cysylltiedig, o safbwynt busnes a defnyddiwr terfynol
Meet The Team
Last modified on Rhagfyr 3rd, 2025 at 12:48 pm