Mae Cartrefi Conwy’n gyfrifol am gynhaliaeth a chynnal a chadw’r prif strwythur ac ardaloedd cymunedol yr adeilad neu’r bloc rydych yn byw ynddo. Mae prydleswyr yn gyfrifol am waith atgyweirio a chynhaliaeth y tu mewn i’w fflatiau eu hunain.
Lle mae angen atgyweirio’r prif adeilad, neu ardal gymunedol a rennir mewn bloc, yna gall Cartrefi Conwy drefnu bod yr atgyweiriadau hyn yn cael eu gwneud gan ein tîm mewnol, neu gontractwr wedi’i benodi. Byddai’r atgyweiriadau hyn ar gyfer goleuadau Grisiau, drws mynediad cymunedol ac ati.
Gallwch roi gwybod am waith atgyweirio cymunedol drwy gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 0300 124 0040. Gallwch hefyd dalu eich taliadau gwasanaeth drwy ddefnyddio’r un rhif.
YMGYNGHORIAD ADRAN 20.
Fel Prydleswr, mae gennych gyfrifoldeb o ran telerau eich prydles, i dalu tuag at gost gwasanaethau, atgyweiriadau, cynnal a chadw neu welliannau i’ch fflat, adeilad a stad. Os ydym yn amcangyfrif bod gwaith atgyweirio a/neu waith mawr dros drothwy penodol (ar hyn o bryd yn £250 fesul prydleswr fesul bloc), rydych yn cael eich diogelu gan ddeddfwriaeth.
Mae Adran 20 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985 yn gofyn i ni roi manylion i chi a gofyn am eich sylwadau ynghylch gwaith a gwasanaethau arfaethedig. Ymgynghoriad yw’r enw ar hwn. Mae hyn yn cael ei wneud drwy anfon hysbysiad ffurfiol atoch, o’r enw Hysbysiad Adran 20.
Os nad ydym yn gwneud hyn, efallai na fyddwn yn gallu codi cost llawn y gwaith a gwasanaethau arnoch. Mae Adran 20 yn nodi’r ffordd rydym yn gorfod ymgynghori â chi.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Ymgynghoriad Adran 20 gan y Gwasanaeth Cyngor ar Bydlesau. Ffôn 020 7383 9800
Last modified on Mai 9th, 2017 at 3:58 pm