Mae prydles yn gontract rhwymol gyfreithiol rhyngoch chi (y prydleswr) a Chartrefi Conwy (eich landlord). Mae’n nodi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau chi a’ch landlord. Mae’n rhoi’r hawl i chi fyw yn yr eiddo am gyfnod penodol o amser, cyn belled â’ch bod yn cydymffurfio â’r amodau sy’n ymwneud ag ef.
Cyn i chi brynu eich eiddo, dylai eich cyfreithiwr fod wedi egluro telerau ac amodau eich prydles i chi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni, neu fe allech geisio cyngor annibynnol, er enghraifft, gan Gyngor ar Bopeth, y Gwasanaeth Cyngor ar Brydlesau (LEASE) neu’ch cyfreithiwr eich hun.
Dylai eich benthyciwr morgais gadw copi gwreiddiol o’ch prydles, a gellir cael copïau ganddyn nhw. Fe allwn ni roi copi i chi, ond efallai y bydd tâl.
Os nad oes gennych forgais, dylech gadw copi gwreiddiol eich prydles a sicrhau ei fod wedi’i gadw’n ddiogel.
Eich hawliau a’ch cyfrifoldebau fel prydleswr
Ein hawliau a’n cyfrifoldebau fel Landlord a Rhydd-ddeiliad
Last modified on Mai 22nd, 2017 at 9:20 am