Gwiriwch y canlynol cyn rhoi gwybod nad yw eich gwres yn gweithio:
- Yw’r cyflenwad nwy wedi ei droi ymlaen ac a oes credyd ar y mesurydd?
- A oes ffiws ar y prif fwrdd wedi ‘tripio’? Os oes, ailosodwch y torrwr cylched.
- A yw pob switsh trydanol ar gyfer y gwres wedi eu troi ymlaen?
- Yw’r amserydd, y cloc neu’r rhaglennydd wedi ei osod i ddod ymlaen yn iawn? Llithrwch reolydd y gwres i’r safle ‘ymlaen’ neu ’24 awr’
- Yw thermostat yr ystafell wedi ei osod yn gywir? Er mwyn gwneud i’r gwresogydd ddod ymlaen efallai y bydd yn rhaid i chi droi’r thermostat i fyny yn uwch.
- Yw rheolyddion eich boeler ac unrhyw switshys sy’n bwydo’r boeler ymlaen?
Os yw eich gwres yn dal ddim yn gweithio, cysylltwch â ni ac fe anfonwn ni un o’n peirianwyr nwy i ddod i weld.
Last modified on Ebrill 7th, 2017 at 2:10 pm