Pwysig: cofiwch gadw fflachlamp yn rhywle gerllaw rhag ofn i chi gael toriad pŵer
Cyn i chi roi gwybod am waith atgyweirio
Os yw’ch holl drydan wedi mynd i ffwrdd:
- Gwiriwch fod gennych gredyd ar eich mesurydd neu eich bod wedi talu eich bil; ac
- Ewch i weld os bu toriad pŵer drwy wirio os yw goleuadau’r stryd ymlaen.
- Os oes toriad pŵer wedi bod, bydd angen i chi gysylltu â’ch cyflenwr trydan am gymorth.
- Os yw’r mesurydd trydan wedi torri, ei fandaleiddio neu wedi ei ddifrodi bydd angen i chi gysylltu â’ch cyflenwr.
Rhybudd – peidiwch byth ag ymyrryd â ffiws, mesurydd neu seliau’r cyflenwr trydan.
Gall y switsh gollwng weithredu am amrywiol resymau, gan gynnwys:
- Cylched wedi ei gorlwytho, er enghraifft gormod o offer yn cael eu defnyddio ar yr un pryd
- Offer sy’n wallus neu sy’n cael eu camddefnyddio, er enghraifft poptai a cheblau ymestyn.
- Poptai neu dostwyr budr
- Tegell wedi ei orlenwi
- Gwresogydd tanddwr gwallus
- Bylbiau golau yn chwythu
Os yw’ch golau yn peidio gweithio, gwriwch fod y switshys gollwng sydd wedi eu marcio â’r gair ‘golau’ ymlaen. Os ydynt i ffwrdd, trowch y prif switsh ymlaen (yr un coch ar y pen fel arfer), ailosodwch y torrwr cylched a throwch y prif switsh yn ôl ymlaen. Gwiriwch i weld pa olau sydd wedi ‘chwythu’.
Os yw eich socedi yn peidio gweithio, tynnwch bob offer trydanol allan o’r socedi, trowch y prif switsh ymlaen (yr un coch ar y pen fel arfer), ailosodwch y torrwr cylched a throwch y prif switsh yn ôl ymlaen. Ewch o amgylch y tŷ gan roi socedi’r offer yn ôl yn y wal tan i chi ddarganfod yr un sy’n wallus.
Last modified on Ebrill 7th, 2017 at 2:04 pm