Dweud eich dweud
Cyn i ni wneud unrhyw newidiadau, rydym eisiau siarad gyda chi a chael eich barn. Mae eich barn am unrhyw newidiadau a wnawn yn bwysig iawn i ni a gall wneud gwahaniaeth i’r ffordd y gwnawn bethau. Dyna pan ein bod yn gofyn i denantiaid ateb pedwar cwestiwn yn yr arolwg yn y ddolen hon erbyn y 30fed Hydref. Hefyd, bydd pawb sy’n cwblhau’r arolwg erbyn y dyddiad hyn yn cael cyfle i ennill £50 o dalebau love2shop.
https://www.surveymonkey.co.uk/r/PYD6L8T
Fel arfer pan rydym angen gwneud newid pwysig fel hyn, rydym hefyd yn eich gwahodd i ddod i gyfarfod i drafod a gofyn cwestiynau. Ni allwn wneud hynny wyneb yn wyneb yn awr ond gallwn wneud hyn ar-lein. Felly, rydym yn cynnal digwyddiad ar Zoom ar 23 Hydref. Mae Zoom yn Ap sy’n gadael i chi siarad a gweld pobl eraill mewn ystafell ar-lein. Mae’n hawdd ei ddefnyddio a’i lawrlwytho i’r rhan fwyaf o bobl, ond gallwn hefyd helpu unrhyw un i wneud hyn ac ymuno. Felly cofiwch gysylltu â ni ac fe wnawn drafod hyn gyda chi. Os na allwch ymuno a ni ar y diwrnod hwn, dwedwch wrthom yn sylwadau y ymholiad a gallwn gysylltu chi gyda dyddiad ag amser i siwtio chi.