Mae gwaith dymchwel wedi dechrau ar floc o 30 o fflatiau a maisonettes fel rhan weddnewidiad gwerth £4.3 miliwn i ystâd dai o’r 1970au.
Bwriad Cartrefi Conwy yw codi 14 o gartrefi modiwlaidd di-garbon newydd yn eu lle ystâd Glanrafon yn Llanrwst.
Mae chwe bloc cyfagos o 30 fflat hefyd yn cael eu gwella’n sylweddol er mwyn rhoi golwg fodern newydd sbon iddynt.
Mae’r gwaith i wella’r fflatiau eisoes ar droed ac mae’r sefydliad bellach yn dymchwel y bloc o maisonettes a fflatiau er mwyn adeiladu cartrefi teulu tair a phedair ystafell wely, er mwyn diwallu’r angen amdanynt.
Ar ben hynny bydd y prosiect arloesol yn creu swyddi a phrofiad gwaith i denantiaid.
Bydd y fframiau pren yn cael eu cynhyrchu gan is-gwmni Cartrefi Conwy, Creu Menter, yn eu ffatri yng Nghaergybi cyn i’r adeiladau modiwlaidd gael eu codi ar y safle.
Mae’r fenter gymdeithasol, y gyntaf o’i bath yng Nghymru, hefyd yn rhedeg Academi Gyflogaeth i ddarparu cyfleoedd, hyfforddiant a chymwysterau i bobl leol ddi-waith, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy.
Maent wedi partneru â chwmni Beattie Passive, prif wneuthurwr cartrefi datblygedig passivhaus, sy’n adeiladau ynni isel.
Mae’r ffatri’n cyflogi pedwar saer a bydd hefyd yn darparu swyddi i bedwar person lleol arall sy’n ddi-waith ar hyn o bryd, yn ogystal â darparu profiad gwaith i 50 o bobl eraill sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i swyddi.
Defnyddir inswleiddio perfformiad uchel i wneud y cartrefi yn hollol ddi-ddrafft, gan leihau colli gwres gan greu cartref nad yw’n cael fawr ddim effaith ar yr amgylchedd a fydd yn arbed hyd at 90 y cant i breswylwyr mewn costau ynni blynyddol.
Cynhaliodd Cartrefi Conwy sawl ymgynghoriad gyda phobl leol i benderfynu beth oedd ei angen arnynt cyn llunio’r cynllun ar gyfer yr ystâd.
Dywedodd Owain Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Asedau a Diogelwch Tenantiaid yn Cartrefi Conwy: “Dyluniwyd y maisonettes gwreiddiol yn 1968 ac fe’u hadeiladwyd yn y 1970au ac nid oedden nhw’n addas i’r diben erbyn hyn.
“Mae’r chwe bloc o fflatiau sy’n weddill yn rhan o raglen wella enfawr gwerth £1.8 miliwn sy’n cynnwys gosod to newydd arnyn nhw ac ychwanegu rendr ac inswleiddio i’r waliau allanol.
“Mae’r ffenestri i gyd yn cael eu newid ac mae rhai ohonyn nhw wedi’u hailgynllunio, tra bod y grisiau bellach yn gaeedig a system mynediad drws diogel newydd wedi cael ei hychwanegu.
“Bydd ardal chwarae awyr agored y plant, sydd wrth galon yr ystâd, hefyd yn cael ei gwella.
“Rydym yn gweithio yn unol â’r agenda a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, effeithlon o ran ynni sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn helpu i leihau ein hôl traed carbon, wrth greu cymunedau y gallwn fod yn falch ohonynt.
“Yn y broses, rydyn ni’n creu swyddi a chyfleoedd profiad gwaith i’n tenantiaid felly mae pawb ar eu hennill.”
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Pan ddyluniwyd ystâd Glanrafon ddiwedd yr 1960au, fe wnaethon nhw ddarparu’r hyn a oedd ar y pryd yn llety o’r radd flaenaf i ddiwallu anghenion tai’r gymuned leol ar yr adeg honno.
“Rydym wedi buddsoddi mwy na £4 miliwn i ail-lunio a gwella’r ystâd fel ei bod yn diwallu anghenion a disgwyliadau ein tenantiaid heddiw ac i’r dyfodol.
“Bydd y chwe bloc o fflatiau yn cael eu gweddnewid yn llwyr wrth iddyn nhw gael eu troi yn gartrefi deniadol, o ansawdd uchel, wedi’u hinswleiddio’n dda.
“Yn y cyfamser, os byddwn yn llwyddo i gael caniatâd cynllunio, byddwn yn buddsoddi £2.5 miliwn mewn adeiladu’r 14 eiddo modiwlaidd a fydd yn darparu cartrefi teulu tair a phedair ystafell wely. Cartrefi sydd eu mawr eu hangen.
“Mae’r system fodiwlaidd yn gyflym ac yn effeithlon iawn. Gallwn godi ffrâm tŷ mewn dau ddiwrnod – dyma yw dyfodol adeiladu.
“Gellir gorchuddio’r ffrâm bren mewn unrhyw ddeunydd ac yna’n fewnol mae yna fwrdd plastr a philen aerglos sy’n selio’r tŷ felly does fawr ddim gwres yn cael ei golli.
“Mae’r eiddo’n ddatblygedig iawn o ran safonau rheoli adeiladu, gan ragori ar ofynion atal sain.
“Mae’n cyrraedd y safon oddefol sy’n golygu y byddan nhw ymhlith y cartrefi mwyaf effeithlon o ran ynni y gallwch chi eu hadeiladu yn y DU.”