Mae’r fframiau pren wedi dechrau cael eu codi yn ein hailddatblygiad Glanrafon yn Llanrwst. Mae’r strwythurau hyn wedi cael eu cludo i’r safle o’n ffatri Creating Enterprise Modular Solutions a byddant yn ffurfio’r 12 cartref teuluol o’r radd flaenaf, Passivhaus, yn lle’r hen fflatiau deulawr ar y safle.
Fe wnaethon ni hefyd ddal i fyny gyda’n tenant Daniel sy’n gweithio’n galed fel hyfforddai ar y safle ac yn byw yng Nglanrafon hefyd. Mae Daniel yn cael ei gyflogi trwy Creu Academi Cyflogaeth Menter a dyma’r tro cyntaf y bydd yn gweithio ym maes adeiladu, dywedodd ei fod yn “mwynhau bod ar y safle ac rwy’n dysgu llawer o sgiliau newydd am waith daear ac adeiladu”