Bargen newydd cymdeithas dai i adeiladu 1,000 o gartrefi ynni effeithlon newydd

Bargen newydd cymdeithas dai i adeiladu  1,000 o gartrefi ynni effeithlon newydd

Mae cymdeithas dai wedi sicrhau £39 miliwn o gyllid ychwanegol i adeiladu 1,000 o gartrefi ynni effeithlon newydd.

Yn ôl Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, mae’r pecyn cyllid newydd yn “gam trawsnewidiol” a fydd yn galluogi’r sefydliad i gyrraedd uchelfannau newydd ac yn helpu i adfywio economi gogledd Cymru ar ôl y cwymp a achoswyd gan bandemig Covid-19.

Daw tua £22 miliwn o’r cyfanswm gan Fanc Lloyds, a Cartrefi Conwy yw’r landlord tai cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i fanteisio ar eu hariannu sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd ac sy’n cynnwys cynllun lleihau cyfradd llog i wobrwyo darparu cartrefi fforddiadwy, di-garbon a mynd i’r afael â digartrefedd.

Dywedodd Mr Bowden: “Arian preifat sy’n dod i mewn yw hwn ac sy’n cael ei ategu gan arian Llywodraeth Cymru ac, os bydd lefelau’r grant tai cymdeithasol yn cael eu cynnal ar y lefelau cyfredol, mae’n golygu bod £39 miliwn i bob pwrpas yn gyfystyr â bron i £100 miliwn o arian ychwanegol.

“Dyma’r peth gwych am gael cymdeithasau tai gan ein bod wir yn gallu gwneud i arian sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru fynd mor bell â phosib wrth adeiladu cartrefi cymdeithasol fforddiadwy newydd yng ngogledd Cymru.

“Wrth ystyried lluosyddion economaidd hefyd, mae’r cyfan yn ychwanegu at hwb enfawr o £186 miliwn i economi’r Gogledd gan greu 4,500 o swyddi dros gyfnod o 10 mlynedd.

“Mae’n fuddugoliaeth fawr i’n cymuned oherwydd rydyn ni’n gwario ein harian yng Nghymru a bydd ein tenantiaid hefyd yn elwa o gartrefi o ansawdd da, wedi’u cynnal a’u cadw’n dda ac sy’n rhad i’w rhedeg.”

Yn gynharach eleni, llofnododd is-gwmni Cartrefi Conwy, Creu Menter, a enwyd yn ddiweddar yng ngwobrau 2020 Fast Growth 50 fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, gytundeb pum mlynedd gyda chwmni o’r enw Beattie Passive gan roi hawliau unigryw iddynt i’w system adeiladu tai arloesol Passivhaus yng ngogledd Cymru.

Yn ogystal â chynnal a chadw 4,000 eiddo Cartrefi Conwy, mae Creu Menter yn helpu pobl leol, gan gynnwys tenantiaid, i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli. Mae elw masnachol y fenter yn cael ei ail-fuddsoddi yn ei hacademi hynod lwyddiannus, Creu Dyfodol.

Ychwanegodd Mr Bowden: “Mae’r pecyn ariannu newydd sy’n caniatáu i ni ddod â’n strategaeth yn fyw yn newyddion hollol wych i Cartrefi Conwy”.

“Gwnaed hyn yn bosibl gan ein record o fod yn gwmni cynaliadwy, wedi’i reoli’n dda, sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa ragorol o gael cynigion gan amrediad o gyllidwyr ac sydd wedi rhoi’r gallu i ni ddewis y cynigion a oedd fwyaf addas i’n cwmni, ein hamgylchiadau a’n huchelgais.”

“Bydd hyn yn ein galluogi i chwarae rhan sylweddol wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu cartrefi fforddiadwy, ynni-effeithlon sy’n helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.”

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn helpu i fynd i’r afael â digartrefedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid iechyd ac awdurdodau lleol ledled y Gogledd.

“Yn bwysig iawn hefyd, mae’n anfon neges at ddatblygwyr ac adeiladwyr tai eraill bod Cartrefi Conwy yn agored i fusnes ac yn uchelgeisiol i wneud hyd yn oed mwy.

Dywedodd Peter Lewis, Cyfarwyddwr Adnoddau’r Grŵp, a weithiodd gyda Centrus, cynghorwyr trysorlys y grŵp, i lunio’r cynigion newydd “I mi mae hyn i gyd yn ymwneud â darparu mwy o gartrefi cymdeithasol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae hynny’n cyd-fynd yn llwyr ag ethos Cartrefi Conwy.

“Mae mynediad i’r pecyn ariannu newydd yn mynd i godi Cartrefi Conwy i lefel newydd. Dyma’r goriad i ddatgloi 1000 o ddrysau newydd.”

“Mae hyn hefyd yn newyddion gwych i economi gogledd Cymru. Rydym am fod fel un o’r busnesau angori hynny, gan ddatblygu a thyfu ein cadwyni cyflenwi lleol.

Dywedodd Christopher Yau, cyfarwyddwr datblygu busnes a chynaliadwyedd ym Manc Lloyds: “Bydd y cytundeb hwn yn galluogi Cartrefi Conwy i chwarae rhan yn yr adferiad economaidd ehangach, gan greu swyddi, adeiladu cartrefi cynaliadwy a helpu i wella bywydau ei breswylwyr yng ngogledd Cymru.

“Trwy strwythuro’r pecyn ariannu hwn yn unol â’r safonau diweddaraf ar gyfer cynaliadwyedd mewn tai cymdeithasol, bydd hefyd yn helpu cartrefi’r rhanbarth i ddod yn llefydd mwy gwyrdd a rhatach i fyw ynddynt.”

Category: Cartrefi News