Cynllun newydd yn cynnig cychwyn newydd i bobl ifanc ddi-waith gafodd eu taro’n galed yn y pandemig

Cynllun newydd yn cynnig cychwyn newydd i bobl ifanc ddi-waith gafodd eu taro’n galed yn y pandemig

Mae cynllun newydd wedi’i lansio i roi cychwyn newydd i 30 o bobl ifanc ddi-waith sydd wedi cael eu taro’n galed yn ystod y pandemig.

Yng ngogledd Cymru bydd rhaglen Gateway Kickstart yn darparu lleoliadau gwaith chwe mis i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed trwy bartneriaeth newydd.

Mae’n cynnwys Creu Menter ym Mochdre sy’n gweithio gyda chymdeithasau tai Cartrefi Conwy a ClwydAlyn ochr yn ochr â’r adeiladwyr Brenig Construction o ogledd Cymru a’r contractwyr trydanol PF&S o Ynys Môn.

Bydd y lleoliadau gwaith yn cwmpasu ystod o sgiliau gan gynnwys adeiladu ond hefyd swyddi amgylcheddol a gweinyddol.

Y nod yw helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith ar ôl gorffen y cynllun.

Mae’r cynllun yn talu 100 y cant o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i gyflogwyr am 25 awr yr wythnos o waith.

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaethau Cartrefi Conwy, Sharon Jones: “Mae’n ymwneud â rhoi cychwyn da i bobl ifanc, gan roi cyfle iddyn nhw gael gwaith.

“Nhw yw’r rhai sydd wedi colli eu swyddi trwy’r pandemig ac sydd ddim bellach yn gwybod beth i’w wneud.

“Mae hyn yn golygu rhoi’r profiad a’r sgiliau iddyn nhw fel y gallwn ni ddarparu hyn gyda’n cyflogwyr partner lleol a’u cefnogi i ddod o hyd i swyddi parhaol ar ddiwedd y chwe mis a chael 30 o bobl ifanc i mewn i waith.

“Mae gennym ystod eang ar gael o swyddi masnach i weithio mewn swyddfa a rhan o Kickstart yw eu cefnogi gyda sgiliau cyflogaeth hefyd.”

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan Creu Menter sy’n gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod i bobl ifanc ddi-waith 16 i 24 oed am y swyddi trwy’r cynllun Kickstart.

Y nod yw i Cartrefi Conwy a Creu Menter ddarparu lle i 11 unigolyn ifanc gyda ClwydAlyn yn darparu lle i bedwar a Brenig Construction a PF&S yn neilltuo lle i ddau yr un.

Dywedodd Mark Parry, Rheolwr Gyfarwyddwr ar y Cyd yng nghwmni Brenig: “Mae’n wych ein bod ni’n gallu cynnig y cyfleoedd hyn ar adeg pan fo bywydau pobl ifanc a dyfodol eu gyrfa wedi dioddef ergyd galed.

“Rydym yn gwmni sy’n tyfu ac mae angen pobl dda sydd â’r sgiliau angenrheidiol arnom i barhau i fod yn llwyddiannus.

“Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Creu Menter i recriwtio pobl a gallwn ni roi’r sgiliau caled sydd eu hangen arnyn nhw trwy’r Pasbort i Adeiladu ond gallwn hefyd gynnig sgiliau meddal iddyn nhw, fel sut i roi cyfweliad da a chyflwyno eich hun a all wella eu siawns o gael swyddi cyflogedig yn y dyfodol.”

Dywedodd Andrew Bowden, Prif Weithredwr Cartrefi Conwy: “Rwy’n falch iawn y gallwn ni, ynghyd â’n his-gwmni, Creu Menter, a’r busnesau eraill chwarae rhan wrth ddarparu’r cyfleoedd hyn i bobl ifanc.

“Rydym yn ceisio gwneud mwy na dim ond darparu cartrefi da a gweddus i bobl, oherwydd rydym hefyd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith ac ennill profiad ac rwy’n gobeithio y bydd llawer ohonyn nhw’n gallu profi eu hunain a dod o hyd i swyddi parhaol o ganlyniad.”

Dywedodd Gemma Kavanagh, Arweinydd Strategol Diwylliant Sefydliadol ar gyfer Grŵp Tai ClwydAlyn: “Mae’r pandemig wedi cael effaith wirioneddol galed ar bobl ifanc ac mi allai gael effaith hir dymor arnyn nhw a’u rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol.

“Mae’r cynllun hwn yn rhoi cyfle i ni greu pedair swydd hollol wahanol nad ydym wedi recriwtio ar eu cyfer o’r blaen, dwy mewn gwaith trin tir sydd â’r potensial i’w rhoi ar brentisiaethau tymor hir, gyda’r swyddi eraill mewn gwasanaethau cwsmeriaid ac fel cydlynydd gwaith trwsio.

“Mae yma botensial gwirioneddol i’r rhain ddod yn gyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy a chadarnhaol gan ar yr un pryd ein helpu i drawsnewid ein gwasanaethau yn unol â’n polisi o drechu tlodi. Ac mae creu cyflogaeth gynaliadwy yn allweddol i hynny.”

Dywedodd Paul Fitzpatrick, o PF&S Cyf: “Rydyn ni bob amser yn chwilio am bobl dda felly mae hon yn ffenestr siop ac rydyn ni wedi bod yn ymwneud â chynlluniau fel hyn ers sawl blwyddyn.

“Nid rhywbeth rydyn ni wedi cael ein gorfodi i’w wneud yw hyn ac os ydyn nhw’n dangos yr agwedd a’r meddylfryd cywir yna does dim rheswm pam na fyddwn i eisiau eu cyflogi.”

Category: Cartrefi News