Mae menter gymdeithasol sy’n ehangu’n gyflym wedi ceisio cynnig gobaith yn ystod yr argyfwng coronafeirws a rhoi help llaw i dros 60 o bobl ddod o hyd i swyddi newydd – gan roi hwb sy’n trawsnewid bywyd rhai tenantiaid cymdeithasau tai sydd heb waith.
Mae trosiant yn Creu Menter, a leolir ym Mochdre ger Bae Colwyn, hefyd wedi cynyddu i dros £10 miliwn diolch i lyfr archebion llawn sydd hefyd wedi ennill clod arbennig.
Cafodd y fenter ei henwi’n ddiweddar fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50 Cymru 2020, gan ehangu 664% rhwng 2017 a 2019.
Cafodd y sefydliad arloesol, sy’n is-gwmni i gymdeithas dai Cartrefi Conwy, ei sefydlu fel cwmni budd cymunedol.
Yn ogystal â chynnal a chadw 4,000 eiddo Cartrefi Conwy, mae Creu Menter yn helpu pobl leol, gan gynnwys tenantiaid, i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddi a gwirfoddoli.
Mae ei elw masnachol yn cael ei ailfuddsoddi yn ei academi hynod lwyddiannus, Creu Dyfodol.
Mae’r sefydliad hefyd wedi lansio menter lwyddiannus arall yn adeiladu cartrefi modiwlaidd.
Mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i adeiladu 350 o’r cartrefi modiwlaidd di-garbon chwyldroadol ar draws gogledd Cymru, gan greu 50 o swyddi eraill yn y broses.
Y nod yw sefydlu ffatrïoedd pop-yp i weithgynhyrchu’r fframiau pren lle bynnag y mae datblygiad adeiladu ar droed.
Hyd yma eleni mae Creu Menter wedi creu wyth swydd ac wedi cefnogi 55 o bobl leol eraill i gael gwaith.
Mae’r profiad wedi newid bywyd i Thomas Strange, 23 oed, o bentref Ty’n y Groes, y tu allan i Gonwy.
Roedd wedi brwydro yn erbyn iselder a straen i’r pwynt lle roedd yn ei chael hi’n anodd codi o’r gwely a gadael y tŷ.
Mae’r cyfle i weithio fel cynorthwyydd cyffredinol gyda’r tîm cynnal a chadw eiddo wedi trawsnewid ei fywyd yn llwyr ac wedi gwella ei ragolygon ar gyfer y dyfodol.
Meddai: “Mae’r academi wedi fy helpu’n fawr. Mi wnaethon nhw fy ffonio bob wythnos, gan fy nghefnogi yn feddyliol a fy helpu i ddod o hyd i waith.
“Yn bendant, mi wnaeth Creu Menter fy helpu gyda fy adferiad a fy helpu i roi fy hun ar y llwybr yr wyf am fod arno, a bod yn ôl mewn cyflogaeth, gwneud ffrindiau a phethau.
“Rwy’n llawer hapusach ynof fy hun, felly rydw i’n cyrraedd yno. Rwy’n falch iawn. Rwy’n ei hoffi’n fawr yma, rydw i hefyd yn hoff iawn o’r bobl yma, sy’n fonws mawr.”
Tenant arall sydd wedi dod o hyd i waith a phwrpas newydd diolch i Creu Menter, yw’r tad i bedwar Jarred Lampkin, 40 oed, o Abergele, a oedd wedi bod yn gweithio fel tad llawn amser yn ei gartref ers bron i 20 mlynedd.
Ar ôl cofrestru yn academi Creu Dyfodol, cafodd gyfle i wneud gwaith gwirfoddol ei rwystro gan Covid ond mae bellach wedi cael contract gyda thâl am 12 mis gyda’r tîm cynnal a chadw eiddo.
Meddai Jarred: “Mae’n mynd yn wych, rydw i wrth fy modd. Mae’n foddhaol iawn bod allan yn gwneud rhywbeth eto. Rydw i ar ben fy nigon.”
“Dydw i ddim yn credu y byddwn wedi gwneud unrhyw beth heb help yr academi yma, oherwydd roeddwn wedi anfon dwsinau o geisiadau am swyddi heb unrhyw lwc. Mi wnaeth yr hogia yma fy helpu i greu CV a phopeth ac mae hynny wedi gwneud byd o wahaniaeth.”
Yn ôl rheolwr Creu Dyfodol, Sioned Williams, roedd yr effaith gadarnhaol yr oeddent yn ei chael ar fywydau pobl fel Thomas a Jarred yn hynod foddhaol ac yn eu cymell i wneud hyd yn oed mwy i helpu pobl ddi-waith i ddod o hyd i swyddi.
Meddai: “Trwy ein hacademi gyflogaeth yn Creu Menter rydym yn neilltuo swyddi ar gyfer tenantiaid Cartrefi Conwy ond mae’r prentisiaethau a gwasanaethau eraill fel cymorth chwilio am waith a chyfleoedd gwirfoddoli yn agored i unrhyw un wneud cais amdanynt.
“Fel is-gwmni i Cartrefi Conwy, rydym yn cyflenwi’r holl waith cynnal a chadw ar gyfer eiddo yng Nghonwy, a thu hwnt gyda chontractau allanol hefyd.
“Mae’n creu cylch gwirioneddol rinweddol oherwydd rydyn ni’n creu swyddi i denantiaid ac mae’r holl arian sy’n cael ei wneud yn cael ei ailgylchu gyda’r elw’n cael ei ailfuddsoddi yn yr academi.
“Mae Creu Menter yn gwneud yn dda fel sefydliad mewn gwirionedd. Mae wedi bod yn daith ryfeddol mewn cyfnod byr iawn o amser.”
Roedd prif weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, yn “hynod falch” o’r hyn y mae Creu Menter yn ei gyflawni.
Meddai: “Mae’n tyfu ac wedi datblygu ymhell y tu hwnt i’m disgwyliadau gwreiddiol.
“Roedd gennym hanes o wneud mwy dros ein cymuned a helpu ein tenantiaid i gyflogaeth ac addysg a rŵan rydyn ni’n gallu gwneud hyd yn oed mwy.
“Mae’n trawsnewid bywydau llawer o bobl oherwydd mae Creu Menter yn aml yn gweithio gyda’r rhai sydd bellaf o’r farchnad swyddi.
“Efallai bod llawer o’r unigolion dan sylw wedi dieithrio o addysg, efallai eu bod wedi cael amheuon rhag mynd ymlaen i addysg bellach oherwydd nad oedden nhw’n hyderus yn eu gallu neu’r hyn y gallen nhw ei wneud, ac mae hyn mewn gwirionedd yn troi hynny o gwmpas ac yn ei droi ar ei ben.
“Mae Creu Menter yn dangos bod y rhain yn bobl alluog sy’n gallu gwneud llawer mwy nag y maen nhw’n ei feddwl, ac rydym yn falch o allu rhoi’r cyfle hwnnw iddyn nhw, ac mae hynny’n llwyddiant enfawr.
“Mae’r niferoedd yn wych, ond y straeon unigol rydych chi’n eu clywed sy’n drawsnewidiol iddyn nhw fel unigolion a’u teuluoedd. Mae’n newid bywyd yn llwyr.”