Mae’r tîm o bron i 100 o bobl yn Cartrefi Conwy yn ceisio cerdded, rhedeg, beicio, hopian a hyd yn oed sgipio 25,000 milltir, sef cylchedd y ddaear, cyn Noswyl Nadolig i godi arian ar gyfer Hosbis Dewi Sant yn Llandudno.
Eu nod yw codi miloedd o bunnoedd i’r hosbis sy’n darparu gofal lliniarol i bobl o Gonwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Yn arwain trwy esiampl mae prif weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, sydd eisoes wedi cerdded 70 milltir.
Meddai: “Y broblem yw nad oes lle i guddio. Mae pawb sy’n cymryd rhan ar ap sy’n cael ei ddiweddaru’n ddyddiol fel y gallwn ni i gyd weld pwy sydd wedi gwneud beth a phwy sy’n rhoi’r gwaith caled i mewn. Mae pethau’n mynd reit gystadleuol!
“Mewn gwirionedd mae’n fenter ragorol mewn blwyddyn sydd wedi bod yn heriol tu hwnt yn wyneb argyfwng iechyd parhaus y pandemig. Mae wedi rhoi sialens i ni i gyd ac yn rhywbeth i ni ganolbwyntio arno.
“Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl ac mae mynd allan a bod yn egnïol yn sicr yn rhoi hwb i’n llesiant. Rwyf bob amser yn credu, os yw staff yn hapus, mae hynny’n helpu i sicrhau y bydd ein cwsmeriaid yn hapus hefyd. Ni fydd staff anhapus yn delio â chwsmeriaid gystal â thîm hapus.”
Ychwanegodd: “Roeddem am gefnogi elusen arbennig ac nid oes yr un yn well na Hosbis Dewi Sant. Yn y gorffennol, cafodd yr elusen ei henwebu gennym yn elusen y flwyddyn.
“Rydyn ni i gyd yn cydnabod yr anawsterau y mae elusennau wedi’u hwynebu yn ystod pandemig Covid-19 gyda llawer o ffynonellau codi arian yn sychu.
“Mae elusennau sy’n dibynnu ar ddigwyddiadau yn ogystal â’u siopau stryd fawr i godi arian wedi derbyn miliynau lawer o bunnoedd yn llai eleni. Felly, rwy’n siŵr y bydd unrhyw help y gallwn ni ei roi yn cael ei groesawu.”
Ar frig tabl y teithwyr talog cynnar gyda bron i 300 milltir ar y cloc y mae’r cydlynydd byw’n annibynnol a’r beiciwr brwd Kim Ashby.
Dywedodd Kim, 28 oed, sydd wedi gweithio i Cartrefi Conwy ers tair blynedd: “Dechreuais feicio 12 mis yn ôl gan fod fy mhartner, Craig, yn feiciwr brwd ac mae ein mab pum mlwydd oed wrth ei fodd yn mynd ar ei feic hefyd.
“Rwy’n mynd allan o leiaf dair gwaith yr wythnos gan gynnwys penwythnosau. Roeddwn yn awyddus i gefnogi Hosbis Dewi Sant hefyd gan fod fy modryb wedi derbyn gofal diwedd oes yn yr hosbis.
“Mae’r her hefyd wedi fy ysgogi i gadw’n heini ac yn sicr mae’n helpu gyda fy iechyd meddwl. Dydw i ddim yn siŵr a fyddaf yn aros ar frig y tabl o ran milltiroedd wedi’u cwblhau, oherywdd mae pethau’n dechrau mynd yn gystadleuol iawn!”
Mae gan Ceri Twist, 47 oed, rheolwr byw’n annibynnol sydd wedi bod gyda Cartrefi Conwy am dros saith mlynedd, reswm personol dros gefnogi Hosbis Dewi Sant.
Meddai: “Treuliodd fy nhad wythnosau olaf ei fywyd yn yr hosbis yn derbyn y gofal mwyaf rhyfeddol posib. Rydw i wedi teithio dros 110 milltir yn barod ond rwy’n ychwanegu mwy bob dydd.”
Mae’r aelod bwrdd a thenant gyda Cartrefi Conwy, Bill Hunt, wedi ymuno â staff i ymgymryd â’r her rownd y byd ac mae eisoes wedi ychwanegu dros 140 milltir at y cyfanswm.
Meddai: “Rydw i wrth fy modd â’r syniad a’r cyfleoedd adeiladu tîm y mae’n eu cynnig mewn cyfnod mor ddyrys. Yn ogystal â chodi arian at achos mor haeddiannol rwy’n teimlo’n well wrth fynd allan a gwneud ychydig o ymarfer corff.
“Rydyn ni i gyd yn gwthio ein hunain i wneud mwy ac yn sicr mae’r ap wedi ychwanegu ychydig o gystadleuaeth i’r her.”
Hyd yn hyn mae’r cydlynydd ymgysylltu â phobl hŷn Cartrefi Conwy, Nerys Veldhuizen, wedi ychwanegu mwy na 110 milltir at y cyfanswm.
Meddai: “Mae’r ap wedi ychwanegu elfen wahanol at yr her oherwydd gallwn ni i gyd weld pwy sydd wedi gwneud beth o ddydd i ddydd. Mae’n her fawr oherwydd gallwch ddewis sut i wneud y milltiroedd. Rwy’n cerdded a rhedeg yn hytrach na beicio.”
Mae’r swyddog cyfryngau digidol Guto Williams a’r cydlynydd cyfranogiad cymunedol Megan Eldon ill dau yn feicwyr brwd ac yn dweud eu bod yn mwynhau’r her.
Dywedodd Megan, sydd eisoes wedi teithio mwy na 150 milltir: “Rydw i wrth fy modd yn beicio er fy mod i’n rhannu’r her rhwng beicio a rhedeg. Mae’n achos mor dda ac rydw i wir yn ei fwynhau. Yn sicr mae’n gwneud lles treulio amser i ffwrdd o sgrin gyfrifiadur i wneud awr neu ddwy o ymarfer corff.”
Dywedodd Guto, sydd wedi ychwanegu dros 127 milltir at gyfanswm y tîm: “Daeth y syniad am yr her mewn cyfarfod o’r tîm cyfathrebu. Y syniad yw cefnogi elusen wirioneddol wych wrth gael pobl allan i wneud ymarfer corff fel ffordd o wella iechyd meddwl. ”
Er ei bod yn feichiog, mi wnaeth Claire Phipps, sy’n gweithio i is-gwmni Cartrefi Conwy, Creu Menter, gofrestru ar gyfer yr her yn syth ar ol clywed amdani.
Meddai: “Mae’r her wedi codi ysbryd go iawn ac wedi cael effaith gadarnhaol arna i, ac rydw i’n ceisio defnyddio pob cyfle prin rydw i’n ei gael i gofnodi’r milltiroedd, pa mor fach bynnag ac weithiau maen nhw’n gamau bach iawn!”
Diolchodd codwr arian ardal Hosbis Dewi Sant James Wilde i dîm Cartrefi Conwy am fynd i’r afael â’r Her Fawr Awyr Agored er budd Hosbis Dewi Sant.
Meddai: “Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r tîm yn dod ymlaen a bydd codi arian a chodi ymwybyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’r cleifion a’u teuluoedd sy’n derbyn gofal yma yn Hosbis Dewi Sant.”
“Mae Dewi Sant yn elusen leol sy’n darparu gofal diwedd oes arbenigol am ddim i bobl leol sy’n byw gyda salwch sy’n cyfyngu ar fywyd. Bob blwyddyn mae angen i’r Hosbis godi dros £4 miliwn er mwyn darparu’r gofal hanfodol hwn, ond ers canol mis Mawrth, rydym wedi cael ein heffeithio’n ddifrifol gan argyfwng parhaus Covid-19.
“Oherwydd ein bod wedi gorfod cau siopau elusennol a chanslo digwyddiadau codi arian hanfodol trwy gydol y cyfnod clo, rydym yn wynebu colled o £1 miliwn.
“Bydd gweithgareddau codi arian cymunedol fel yr Her Fawr Awyr Agored yn rhoi hwb sylweddol i ni gyrraedd targed Cronfa Adfer yr Hosbis i adennill yr £1 miliwn erbyn diwedd 2020.”