Mae menter gymdeithasol wedi cyhoeddi cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu bron i 350 o gartrefi di-garbon ar ôl ennill cytundeb pum mlynedd gyda’r cwmni a’u datblygodd.
Mae Creu Menter wedi arwyddo cytundeb gyda Beattie Passive gan roi hawliau unigryw iddynt i’w system adeiladu arloesol Passivhaus yng ngogledd Cymru tan 2025.
Bydd tua 50 o swyddi newydd yn cael eu creu, ac maen nhw hefyd wedi addo defnyddio isgontractwyr a chyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd er mwyn rhoi hwb i economi’r rhanbarth.
Mae’r cysyniad yn un hyblyg sy’n golygu y gellir defnyddio’r system hefyd i wneud podiau un ystafell wely neu adeiladu cartrefi deulawr gyda thair, pedair neu fwy o ystafelloedd gwely.
Mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu dros 100 o’r eiddo modiwlaidd chwyldroadol ar draws gogledd Cymru yn Ynys Môn, Conwy a Sir Ddinbych.
Credir mai’r cynllun hwn yw’r cyntaf o’i fath gan fenter gymdeithasol yng Nghymru.
Fe’i gwnaed yn bosibl trwy weithio mewn partneriaeth â Beattie Passive, un o brif wneuthurwyr cartrefi datblygedig Passivhaus, a all arbed hyd at 80 y cant ar gostau ynni blynyddol i breswylwyr.
Mae Creu Menter, is-gwmni i’r gymdeithas dai Cartrefi Conwy, yn bwriadu agor ffatrïoedd pop-yp newydd lle bynnag y mae ganddyn nhw ddatblygiad ar droed.
Y nod yw darparu cyfleoedd swyddi a hyfforddiant i bobl ddi-waith yn yr ardaloedd hynny.
Yn ôl Adrian Johnson, rheolwr gyfarwyddwr cangen gwasanaethau masnachol Cartrefi Conwy, roedd y bartneriaeth yn ticio pob un o flychau Llywodraeth Cymru.
Bydd yr eiddo modiwlaidd yn creu cartrefi a chyflogaeth newydd y mae mawr eu hangen wrth helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Mr Johnson: “Ein prif ffocws yw darparu tai fforddiadwy, di-garbon ledled y Gogledd.
“Mae’r cytundeb hirdymor newydd hwn yn caniatáu i ni gael y gorau o bob byd o ran adeiladu cartrefi ynni-effeithlon, di-garbon, wedi’u hardystio gan Beattie Passive.
“Mae’r cartrefi ffrâm bren wedi’u hadeiladu o ddeunyddiau cynaliadwy, gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern.
“Byddant yn cael eu gweithgynhyrchu’n lleol gan ddefnyddio deunyddiau sydd ar gael yn rhwydd gan gyflenwyr lleol a bydd y fframiau’n cael eu hadeiladu mewn ffatri pop-yp ar y safle, gan leihau ein hôl troed carbon.
“Mae’r eiddo’n ddatblygedig iawn o ran safonau rheoli adeiladau, gan ragori ar y gofynion atal sain ac mae rhwystrau nwy radon wedi’u cynnwys fel rhan o’r adeiladwaith hefyd.
“Mae’n cyrraedd safon adeiladau goddefol sy’n golygu y byddant ymysg y cartrefi mwyaf effeithlon o ran ynni y gallwch eu hadeiladu yn y DU.
“O ganlyniad, bydd cost tanwydd cyfartalog tŷ tair ystafell wely oddeutu £100- £150 y flwyddyn yn hytrach na’r £1,000 y flwyddyn y byddech yn ei wario mewn eiddo confensiynol o’r un maint.
“Y bwriad yw creu bron i 350 o gartrefi newydd dros y pum mlynedd nesaf a dim ond trwy gydweithio gyda’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill ac awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru y gallwn wneud hynny.
“Ar hyn o bryd, mae gennym seiri neu dechnegwyr modiwlaidd amser llawn ar ein llyfrau, ac rydym yn eu hategu efo isgontractwyr lleol ym ma bynnag ardal yr ydym yn adeiladu ac ar y cyfan rydym yn debygol greu tua 50 o swyddi newydd.
“Mae lefel y diddordeb rydym yn ei weld yn anhygoel felly mae’r potensial ar gyfer yr eiddo modiwlaidd yma yn enfawr.”
Ategwyd y teimlad hynny gan Ron Beattie, Rheolwr Gyfarwyddwr Beattie Passive.
Meddai: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Cartrefi Conwy a Cree Menter i ddarparu cartrefi Beattie Passive yng ngogledd Cymru.
“Credwn eu bod yn enghraifft o werthoedd a nodau Beattie Passive ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar ein partneriaeth trwy’r cytundeb trwyddedu newydd.
“Bydd yn ein helpu i ddarparu hyfforddiant i greu gweithlu newydd a all ddarparu cartrefi’r dyfodol.
“Rydym hefyd yn gweld hyn fel cam strategol da oherwydd bod Llywodraeth Cymru ar y blaen o ran lleihau allyriadau carbon a dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflawni eu nodau, ac ar yr un pryd creu cyflogaeth a chartrefi newydd sydd eu hangen yn fawr.”
Sefydlwyd Creu Menter, sydd wedi’i lleoli ym Mharc Busnes Cartrefi Conwy, ym Mochdre, ger Bae Colwyn, yn 2015.
Mae hefyd yn rhedeg Academi Gyflogaeth er mwyn darparu cyfleoedd, hyfforddiant a chymwysterau i bobl leol ddi-waith, gan gynnwys tenantiaid Cartrefi Conwy.
Dywedodd Prif Weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden: “Bydd y cynnyrch hwn yn chwyldroi’r farchnad tai cymdeithasol yng ngogledd Cymru a bydd y bartneriaeth rhwng Creu Menter a Beattie Passive yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth i’r bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad swyddi.
“Fel menter gymdeithasol rydym eisiau gwneud elw, ac yna ailgylchu’r elw hwnnw er lles cymdeithasol sydd mewn gwirionedd yn dod â thenantiaid yn ôl i gyflogaeth â thâl. Elw gyda phwrpas yw hwn.”