Mae’r Big Sleep Out 2021 yn edrych ychydig yn wahanol eleni gan ei fod yn rhithwir …
Y llynedd, ymunodd ein cydweithwyr â Clwyd Alyn i gymryd rhan i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd, mynd i’r strydoedd a gwersylla yng Nghlwb Rygbi Llandudno rhwng 10yh a 6yb y bore nesaf.
Codwyd £11,570 ar gyfer ariannu gwasanaethau digartrefedd lleol a chodi arian i bobl ddigartref yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn cymryd rhan eto ochr yn ochr â Clwyd Alyn i godi ymwybyddiaeth ac arian mawr ei angen ar gyfer gwasanaethau digartref yng Ngogledd Cymru! Mae’r Big Sleep Out yn cychwyn am 10yh ddydd Sadwrn 27ain Chwefror ac yn gorffen am 6yb y bore nesaf.
Mae’n ymwneud â chysgu allan, neu y tu mewn, unrhyw le heblaw yn eich gwely ac rydym yn annog ein tenantiaid, teuluoedd, plant a hyd yn oed eich anifeiliaid anwes i ymuno.
Os ydych chi’n bwriadu cymryd rhan yna rhannwch eich delweddau a’ch syniadau o sut olwg fydd ar eich ‘Cwsg Mawr Allan neu Mewn’.
Dyma rai awgrymiadau da ar gyfer pethau y gallai fod eu hangen arnoch chi.
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()
![]()