Eich Rhent a’ch Taliadau Gwasanaeth newydd

Eich Rhent a’ch Taliadau Gwasanaeth newydd

 

Fe wnaethom anfon llythyr atoch fis diwethaf am newidiadau i’ch rhent a thaliadau gwasanaeth (os oes gennych rai).

Credyd Cynhwysol a newidiadau yn eich rhent y mis hwn

Os ydych yn derbyn Credyd Cynhwysol mae rhai pethau pwysig y mae angen i chi eu gwybod a gweithredu arnynt oherwydd y newidiadau hyn.

  • Arhoswch nes byddwch yn cael tasg i’w gwneud ar eich llyfryn yn ystod eich cyfnod asesu ym mis Ebrill!
  • Pan fyddwch yn gwneud hyn, ond nid cyn hynny, gweithredwch ar hyn ar unwaith ac edrychwch ar eich llythyr rhent i’ch helpu gyda hyn.
  • Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn gwahanu’r rhent oddi wrth unrhyw daliadau gwasanaeth a allai fod gennych pan fyddwch yn llenwi hwn sydd ar eich dyddlyfr.

*image DWP example

Yn derbyn Budd-dal Tai?

Os ydych chi’n byw yng Nghonwy nid oes angen i chi wneud unrhyw beth gan fod popeth wedi’i wneud i chi.

Os ydych chi’n byw yn Ninbych cysylltwch â Thîm Budd-dal Tai Sir Ddinbych.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am newidiadau i’ch rhent neu dâl gwasanaeth?

Gallwch anfon e-bost at enquiries@cartrefi conwy.org neu gofynnwch i’ch Cydlynydd Taliadau ar 0300 124 0040

Category: Cartrefi News