Byddwn yn darparu tai o ansawdd, fforddiadwy a hygyrch, yn y mannau y mae eu hangen.
I wneud hyn byddwn yn canolbwyntio ar:
Darparu cartrefi newydd
- Sicrhau ein bod yn darparu’r tai iawn yn y llefydd iawn, o adeiladu tai newydd i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Buddsoddi yn ein Cartrefi Presennol
- Buddsoddi yn ein tai er mwyn sicrhau eu bod yn ffit ar gyfer y dyfodol, lleihau carbon a chadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Adfywio Cymunedol
- Cyflawni prosiectau adfywio er mwyn cefnogi cynaladwyedd ein trefi a’n cymunedau
Last modified on Chwefror 1st, 2021 at 9:07 am