Datblygiad newydd o 28 o gartrefi modern fforddiadwy o safon i’w rhentu. Mae datblygiad Maes Glanrafon wedi’i leoli ar gyrion canol tref Llanfairfechan ond yn dal o fewn pellter cerdded i holl gyfleusterau’r dref ac yn agos at y promenâd, A55 a chysylltiadau cludiant cenedlaethol.
Mae gan y datblygiad olygfeydd o’r arfordir ac mae wedi’i leoli’n rhannol o fewn Ardal Gadwraeth Llanfairfechan – mae’r gorffeniad ar y tu allan a thirlunio bioamrywiol wedi’i ddylunio i’w integreiddio gyda’r dalgylch a’r adeiladau lleol. Mae’r datblygiad yn gymysgedd o randai 1 a 2 ystafell wely, tai 2 a 3 ystafell wely a fflatiau bwthyn 2 ystafell wely (mae gan y fflatiau bwthyn eu mynedfa a’u gardd eu hunain) ac mae rhenti cymdeithasol a chanolradd ar gael.
Tai Cymdeithasol
6 Tŷ:
2 x 3 ystafell wely
4 x 2 ystafell wely
17 o Randai (Bloc rhandy dros 3 llawr):
9 x 1 ystafell wely
8 x 2 ystafell wely
Rhent Canolradd
Mae’r daliadaethau canolradd wedi cael eu dewis o’r Gofrestr Tai Fforddiadwy. Mae’r ddeiliadaeth wedi’i anelu at weithwyr allweddol sydd ag incwm blynyddol cyffredinol y cartref rhwng £15,000 a £30,000.
1 tŷ 2 ystafell wely
4 fflat bwthyn 2 ystafell wely
(Pob un â’u mynedfa a gardd eu hunain)
Mae manteision buddsoddi cymunedol wedi cynnwys gweithio gyda’r coleg lleol, cynnal cyflwyniadau ac ymweliadau ar gyfer myfyrwyr a thiwtoriaid i gynorthwyo gyda datblygu cwrs dysgu ac adeiladu’r coleg. Yn ogystal, bu Cartrefi Conwy a Brenig Construction yn cymryd rhan drwy noddi digwyddiadau a chlybiau lleol. Yn arwyddocaol, fe wnaethant ymgymryd â gwaith ailwampio yn y llyfrgell leol er mwyn i’r dref barhau i elwa o’u llyfrgell a chanolbwynt cymunedol.
FFEITHIAU ALLWEDDOL
- Cyfanswm Cost y Cynllun: £3.495M
- Grant Tai Cymdeithasol: £1.674M
- 87% o’r gadwyn gyflenwi leol wedi’i defnyddio
- 85% o’r farchnad lafur leol wedi’i ddefnyddio
- 205 o weithwyr wedi’u cyflogi
- Wedi’i gwblhau’n gynt – mis Ionawr 2017
- 68.48% o wastraff wedi’i ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi
- 4 prentis wedi cael profiad gwaith
- 10 o gyfleoedd cyflogaeth ychwanegol
- 33 wythnos o waith ar gyfer unigolyn 16-25 mlwydd oed oedd yn ddi-waith yn flaenorol
- 25 wythnos o waith ar gyfer gweithwyr eraill oedd yn ddi-waith yn flaenorol
Last modified on Mawrth 29th, 2017 at 10:45 am