Mae Llwyn Rhianedd, Ffordd Maesdu yn ddatblygiad tai newydd yn Llandudno sy’n darparu naw cartref fforddiadwy i deuluoedd. Yn Llandudno, mae’n rhaid i lawer o deuluoedd fyw mewn fflatiau pan fydd angen tai gyda gerddi arnynt. Mae’r broblem hon wedi codi gan fod mwy na hanner y stoc tai cymdeithasol yn Llandudno yn cael eu gwerthu o dan y ddeddfwriaeth Hawl i Brynu yn y 30 mlynedd diwethaf, gyda mwyafrif y tai hyn yn gartrefi teuluol. Cynlluniwyd y cynllun hwn i fynd i’r afael â’r mater hwn drwy greu mwy o gartrefi i deuluoedd yn y dref.
Mae’r eiddo yn thermol effeithlon, gan gadw biliau ynni mor isel â phosibl i denantiaid.
Mae datblygiad Llwyn Rhianedd yn eistedd ar ymyl stad Tre Cwm yn Llandudno lle mae Cartrefi Conwy wrthi’n gweithio ar gynllun gwerth £340,000 i roi gwedd newydd i du allan fflatiau a fflatiau deulawr. Mae Cartrefi Conwy yn ymrwymedig i ddod â manteision ychwanegol o ran hyfforddiant, prentisiaethau a phrofiad gwaith i unrhyw waith a wnawn.
Rydym wedi cydweithio gyda’n contractwyr a’r coleg lleol i gynnal digwyddiad arddangos arbennig sy’n rhoi blas i bobl o sut beth yw gweithio yn y byd adeiladu. Y nod yw annog unrhyw un o oedran gweithio o’r ardal leol i ystyried adeiladu fel dewis gyrfa.
FFEITHIAU ALLWEDDOL
- Cyfanswm Cost y Cynllun: £1,237,350
- Grant Tai Cymdeithasol: £703,693
- Grant Tai Cymdeithasol £354,000 = 42% o Gyfanswm Costau’r Cynllun
- Dyddiad dechrau: Mawrth 2014
- Wedi’i gwblhau: Ebrill 2015
- 9 cartref oes i deuluoedd, 4 eiddo 2 ystafell wely a 5 eiddo 3 ystafell wely
- Wedi’u hachredu â’r Cod ar gyfer Cartrefi Cynaliadwy – Lefel 4
- Ymgysylltu gyda’r ysgol leol a’r plant a ddewisodd enw’r datblygiad
Last modified on Mawrth 29th, 2017 at 11:17 am