Chwilio am sêr sgrymio newydd

Chwilio am sêr sgrymio newydd

Mae hyfforddwr rygbi blaenllaw yn gobeithio dod o hyd i seren y dyfodol ar ôl ymuno mewn partneriaeth â chymdeithas dai.

Dywed Ceri Jones, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, a gymerodd ofal tîm rygbi rhanbarthol Rygbi Gogledd Cymru (RGC) yn ddiweddar, ei fod wedi’i gyffroi gan y bartneriaeth gyda Cartrefi Conwy.

Fel rhan o gytundeb noddi Cartrefi Conwy, bydd RGC yn cynnal sesiynau hyfforddi ar gyfer plant tenantiaid ac yn cymryd rhan mewn llu o weithgareddau cymunedol ledled y sir.

Yn ôl cyn-brop yr Harlequins Ceri, a enillodd ddau gap i Gymru, roedd yna werth dwy ffordd i’r sesiynau hyfforddi oherwydd roedd siawns bob tro y byddai’n darganfod seren newydd ar yr un lefel â’r asgellwr rhyngwladol George North sy’n hanu o Ynys Môn.

Roedd yn siarad mewn noson deuluol ar thema rygbi a drefnwyd gan Cartrefi Conwy yn y cae gemau aml-ddefnydd ger Heol yr Eglwys, Llandrillo-yn-rhos.

Dywedodd Ceri, a arferai weithio fel hyfforddwr rygbi cynorthwyol gyda Chaerwrangon a Dreigiau Casnewydd: “Mae’n gwbl bosibl y gallai’r enw mawr nesaf ym myd rygbi fod yn blentyn i un o denantiaid Cartrefi Conwy.

Cryfder digwyddiadau cymunedol ar lawr gwlad fel hyn yw eu bod yn rhoi blas o’r gêm i bobl ifanc.

“Efallai y bydd bachgen ifanc neu ferch ifanc yn dod draw yma i ddarganfod bod ganddyn nhw angerdd go iawn a thalent naturiol yn y gamp.

“Gyda rhywfaint o hyfforddi safonol, mi fedren nhw fynd yr holl ffordd i mewn i’r gêm broffesiynol.”

Mae RGC hefyd yn rhoi 30 tocyn i Cartrefi Conwy ar gyfer pob gêm gartref yn stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn i’w rhoi am ddim i denantiaid dros y tymor sydd i ddod.

Dywedodd cyfarwyddwr partneriaethau a gwerth cymdeithasol Cartrefi Conwy, Sharon Jones: “Mae plant yn cael mynd i mewn am ddim beth bynnag ond os yw rhieni eisiau mynd â’u pobl ifanc efo nhw yna mi fedran nhw gael tocyn trwyddon ni cyn belled â bod rhai ar gael o hyd.

“Byddwn yn eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Y cyfan sy’n rhaid i’n tenantiaid ei wneud yw cysylltu â mi cyn y gêm y maen nhw am fynd i’w gweld. Yr unig amod yw bod yn rhaid iddyn nhw fod yn denant i gymdeithas dai Cartrefi Conwy.”

Dywedodd prif weithredwr Cartrefi Conwy, Andrew Bowden, fod y bartneriaeth gadarn gyda RGC dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod o fudd mawr i’r gymuned leol.

Meddai: “Fel cymdeithas rydym yn gweld ein hunain fel mwy na darparwyr tai yn unig, ond rydym yn ei gwneud yn nod i ymgysylltu efo arweinwyr cymunedol a chysylltu efo’n tenantiaid.

“Mae’n bwysig ein bod yn gwrando ar eu hanghenion o ran materion cymunedol a hamdden ehangach.

“Un o’n nodau allweddol yw ychwanegu gwerth cymdeithasol a galluogi integreiddio cymunedol ar draws holl fannau preswyl ein tenantiaid.”

“Mae’r ddau ohonom yn sefydliadau hynod gymunedol, gydag ethos tebyg a nodau sy’n cyfateb, a dyna pam rydyn ni wedi datblygu partneriaeth mor llwyddiannus yn fy marn i.”

Adleisiwyd y neges gan reolwr cyffredinol RGC, Alun Pritchard, cyn-flaenasgellwr Abergele.

Meddai: “Mae cydweithredu fel yr un llwyddiannus yma gyda Cartrefi Conwy yn hynod bwysig i ni fel clwb oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i ni integreiddio efo’r gymuned ac ysbrydoli pobl ifanc i ddod i mewn i’r gêm, na fydden nhw efallai wedi meddwl amdani fel arall.

“Mae potensial rygbi enfawr yng ngogledd Cymru a pho fwyaf y gallwn ymgysylltu â’n grŵp cymunedol lleol, a bod yn rhan o ddarpariaeth hyfforddi ar lawr gwlad, yna’r mwyaf yw’r siawns o roi lle canolog i’r rhanbarth ar fap rygbi Cymru.”

Mynychodd y brodyr Harry ac Oliver Groves, sy’n chwarae i dîm rygbi plant iau Llandudno, y noson deuluol gyda’u mam, Elen Groves a’u Nain, Lesley Williams.

Dywedodd Harry, 10 oed, ac Oliver, chwech oed, ei bod yn wych cyfarfod â hyfforddwyr RGC.

Dywedodd Elen fod y bechgyn wedi gwirioni ar rygbi, gan ychwanegu: “Rydyn ni’n gefnogwyr mawr o’r gymdeithas dai a’i holl ddigwyddiadau. Rydyn ni’n mynychu’r mwyafrif ohonyn nhw ac yn eu mwynhau bob amser. Fel sefydliad maen nhw’n yn mynd ati i gynnwys pob rhan o’r gymuned ac yn estyn croeso i bawb. Mae hon wedi bod yn noson wych ac rydym mor falch ein bod wedi teithio o Landudno i’w mynychu. “

Gwnaeth y digwyddiad argraff ar y tenantiaid Janey a Lenny Mitton, o Landrillo-yn-rhos, ac roeddent yn croesawu’r cyfle i roi adborth am anghenion hamdden preswylwyr.

Dywedodd Lenny: “Mae angen mawr i ddarparu mwy o weithgareddau y tu allan i’r ysgol i blant yn yr ardal hon. Nid oes llawer yn digwydd ac mae gan bobl ifanc gymaint o egni y mae angen iddyn nhw ei sianeli mewn ffordd gadarnhaol. Mae’n bwysig darparu digwyddiadau fel hyn neu glybiau ieuenctid y gallan nhw eu mwynhau a dysgu ohonyn nhw, gan gynnwys chwaraeon fel rygbi lle maen nhw’n cael hyfforddiant proffesiynol. “

Dywedodd Mike Thelwell, rheolwr tîm dan 11 Bae Colwyn, a’r cadeirydd Rupert Corner eu bod yn falch o gefnogi’r digwyddiad ac i ysbrydoli pobl ifanc eraill i chwarae rygbi.

Meddai Mike: “Mae rygbi yn rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ac mae’n boblogaidd iawn ar draws y rhanbarth. Mae gan y gamp gymaint i’w chynnig, p’un a ydych chi’n chwaraewr, yn hyfforddwr, yn gynorthwyydd y tu ôl i’r llenni neu’n wyliwr. Mae’n gȇm gymunedol i bawb.”

Hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Cartrefi Conwy yn y digwyddiad yr oedd cynrychiolwyr MW Sports, Shona Roberts a McCauley Taylor, a arweiniodd weithgareddau ar thema chwaraeon a gemau hwyl.

Trwy gydol y noson, dosbarthwyd holiaduron ac anogwyd tenantiaid Cartrefi Conwy i roi eu barn am y math o weithgareddau chwarae a hamdden plant yr hoffent eu gweld yn lleol yn y dyfodol.

Arweiniodd Jasmine Rigby a Kathy Griffiths o dîm Creu Dyfodol Cartrefi Conwy y broses ymgynghori.

Meddai Kathy: “Rydym wedi cael llawer o syniadau hyd yma gan gynnwys, mwy o chwaraeon, rhywle gwell i gymdeithasu, parciau sgwter a sglefrfyrddio, a mwy o sesiynau adeiladu tîm. Y syniad yw y byddwn ni’n cael tenantiaid i bleidleisio ar y gwahanol awgrymiadau a rhoi blaenoriaeth i’r rhai sy’n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau.”

Dylai unrhyw denantiaid sydd eisiau tocynnau am ddim ar gyfer gemau cartref RGC ffonio 01492 588980 neu anfon e-bost at employmentacademy@creatingenterprise.org.uk

Category: Cartrefi News