Croeso i flog Awst Ciplun y Gymued, lle rydym am gasglu’r holl straeon a’r cymeriadau lleol sydd wedi gwneud argraff allan yn eich cymuned dros y mis diwethaf ac rydyn ni’n eu rhannu gyda chi yma.
Yn gyntaf, gwahoddwyd tenantiaid y Fron yn ddiweddar i serennu yn y ffilm llwybr treftadaeth ddigidol ‘Imagine Bae Colwyn’ gan ddod â’u hatgofion o Fae Colwyn yn fyw.
Mae TAPE Community Music and Film yn Hen Golwyn yn cynhyrchu’r ffilm a fydd yn dod â cymeriadau, adeiladau ac eiliadau mewn hanes yn fyw trwy fyfyrdodau personol, animeiddio, sain, gwaith celf a gair ysgrifenedig.
Diolch i’n tenantiaid am gymryd rhan a rhannu eu hatgofion a fydd yn ddiddorol edrych yn ôl ar orffennol Bae Colwyn.
![]()
Mae Karen, aelod o’n grŵp Bysedd Gwyrdd Chester Avenue ym Mae Kinmel wedi bod yn gweithio’n galed yn plannu blodau hyfryd yn y tŷ cymunedol dros y mis diwethaf. Mae hi’n ei chael hi’n edrych yn braf a thaclus yn barod ar gyfer pryd rydym ni’n gallu trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau awyr agored eto. Disgwylir i’n cyfarfod awyr agored cyntaf gael ei gynnal yn gynnar ym mis Medi.
![]()
Mae gwaith wedi bod yn mynd yn dda draw yn ein datblygiad Stryd Gloddaeth yn Llandudno. Siaradwn â Danny ar y safle a oedd yn brysur yn gwneud gwaith plastro. Roeddem yn hynod falch o Danny a gafodd gynnig swydd llawn amser gyda Brenig Construction yn ddiweddar, yn dilyn ymlaen o’i gontract 12 mis trwy Academi Cyflogaeth Creu Dyfodl yn Creu Menter. Rydym yn falch o weld ei fod yn mwynhau ei rôl newydd ac yn gweithio ar un o’n datblygiadau newydd cyffrous. Bydd y datblygiad newydd ar Gloddaeth Street yn 12 fflat 2 wely modern newydd yng nghanol Llandudno.
![]()
Mae Lydia a Meg o’n tîm Ymgysylltu ar Gymuned wedi bod yn brysur unwaith eto yn rhedeg eu sesiynau celf Awst ar-lein gyda’n tenantiaid, gan gynnwys sesiwn Celf Teulu, Sesiynau Byrddio Creadigol a Gweledigaeth. Yn ein sesiwn fyrddio gweledigaeth ar-lein a gynhaliwyd ynghyd â Jasmine o Creu Menter, gofynnwyd i denantiaid roi eu gobeithion a’u breuddwydion i lawr ar fwrdd i’w hysbrydoli ar gyfer y dyfodol y tu hwnt i’r pandemig. Dyma enghraifft wych gan un o’n tenantiaid Helen, a ddywedodd ei bod hi a’i merch “wedi mwynhau’r sesiynau yn fawr” ac yn dangos gwir ddawn am greadigrwydd.
![]()
Roedd ein sesiwn Celf Greadigol ar-lein ddiweddar yn llwyddiant mawr, gofynnwyd i’r tenantiaid a gymerodd ran greu paentiad ‘Dyheadol’ gan ddefnyddio dail fel eu dyheadau, a’r gwreiddiau’n cynrychioli’r hyn sy’n eu cefnogi. Rhedwyd y sesiwn gan Lisa Lochhead o Gelf a Dylunio Lisa Lochhead, ac rydym wedi cael rhai delweddau hyfryd wedi’u rhannu â ni o rywfaint o’r gwaith celf a cafodd ei greu ac adborth gan y rhai a gymerodd ran, dywedodd un tenant wrthym “Roedd yn wych gweld pawb a threuliwyd amser boddhaus iawn. Diolch i Lisa a phawb”.
![]()