Oherwydd y cyhoeddiad diweddar gan Llywodraeth Cymru ni allwn gynnig yr un gwasanaethau i’n tenantiaid ag y gallem o’r blaen. Dyma grynodeb o’r hyn y gallwn ac na allwn ei wneud ar hyn o bryd:
Beth allwn ni ei wneud
- Gwneud atgyweiriadau brys, argyfwng ac sydd ddim yn hanfodol yn eich cartref
- Gosod cartrefi gwag mewn amgylchiadau brys
- Cadw ein safleoedd datblygu ar agor gan ddilyn gweithdrefnau pellhau cymdeithasol a diogelwch llym
- Parhau â gwaith gwella allanol lle mae’n ddiogel gwneud hynnu
- Parhau i roi cefnogaeth llesiant rhithwir i denantiaid mewn angen
Yr hyn ni allwn ei wneud
- Gweld eiddo os yw’r cartref gyda thenantiaid
- Agor ein swyddfeydd i’r cyhoedd
- Digwyddiadau tenantiaid (y tu mewn ac tu allan)
- Hwyluso cyfnewidiadau cartref
PWYSIG – mae’n rhaid i ni wneud rhai gwiriadau atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol yn ôl y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau diogelwch nwy blynyddol a phrofion trydanol pob 5 mlynedd. Hyd yn oed os yw’ch cartref yn hunan ynysig mae’n rhaid i ni wneud y gwiriadau hyn o hyd ond lle bynnag y bo hynny’n bosibl byddwn yn gohirio’ch apwyntiad. Er mwyn eich amddiffyn chi a’n cydweithwyr rheng flaen byddwn yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn cyn i ni ddod i mewn i’ch cartref.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni
Ffoniwch 0300 124 0040 neu e-bostiwch enquiries@cartreficonwy.org
Last modified on Mehefin 15th, 2021 at 8:58 am